Ffotosynthesis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 35:
Mae’r broses olau yn cynhaeafu egni solar, a’i storio fel egni cemegol yn ffurf ATP a NADPH2. Y broses dywyll yw’r broses o ddefnyddio’r egni yma i ostwng [[carbon deuocsid]] i gyfansoddion organig fel [[glwcos]] a [[protein|phroteinau]]. Mae angen mwy na 50 moleciwl o [[ATP]] i ffurfio un [[moleciwl]] o glwcos.
Darganfuwyd y broses hon gan [[Melvin Calvin]] gan ddefnyddio [[isotop]]au [[carbon]] felly fe’i gelwir yn [[cylchred Calvin|gylchred Calvin]]:
*Mae CO<sub>2</sub> yn uno gyda chyfansoddyn 5 [[carbon]] [[ribwlos bisffosffad]] gan ffurfio cyfansoddyn 6 carbon ansefydlog. Cataleiddir yr adwaith hwn gan yr [[ensym]] [[ribwlos 1-5 bisffosffad carbocsylas]].
*Mae’r cyfansoddyn 6 [[carbon]] yn hollti i ddau foleciwl 3 [[carbon|charbon]] o [[glyserad-3-ffosffad]].