Tŷ coffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
iaith
Llinell 5:
Adeiladwyd y tai coffi cyntaf yn yr [[Ymerodraeth Ottoman]], yn enwedig yn [[Cairo|Nghairo]], [[Damascus]] ac [[Aleppo]]. Y tŷ coffi cyntaf yn [[Istanbul]] oedd y tro cyntaf i'r math hwn o siop gyrraedd cyfandir [[Ewrop]].
 
Sefydlwyd y caffi cyntaf yng ngorllewin Ewrop yn [[Fenis]] ym 1647 o dan arcedau Sain Marc. Dilynwyd hwn gan dŷ coffi yn [[Rhydychen]] yn 1650. Yn 1652, agorwyd tŷ coffi arall yn [[Llundain]] o'r enw "Virginia Coffee-House". Roedd rhai o'r tai coffi hyn yn llefydd poblogaidd iawn, ac yn llefydd cymdeithasol iawn i'r ''bourgeois''. Agorwyd caffis cyffredin ar gyfer ysgolheigion, cyfreithwyr ayyb. Roedd y caffi hefyd yn cynnig gwasanaeth y system bost ("Penny Post"), a'r blychau post cyntaf. Mae'r tai bwyta hyn hefyd yn enwog am eu cyfraniad i ddatblygiad y papur newydd. Mae'r ''The Spectator'', a gyhoeddwyd gan [[Joseph Addison]] a Reed, yn enghraifft gan iddo gael ei olygu yn Button's Coffee-house.
 
Cafodd tŷ coffi Edward Lloyd gryn ddylanwad ar fyd ariannolyswiriannau gwledydd Prydain, gan mai yno y cyfarfu'r dynion a ddaeth ynghydynghŷd i sefydlu'r cwmni yswiriant [[Lloyd's of London]] a'r rhestr gychod enwog a elwir yn "Lloyd's Register". Does wnelo'r lle ddim oll a Banc Lloyds, fodd bynnag.
 
==Ffynonellau==