Mudkip: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Stifyn (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Mudkip <div style="position:fixed; left:60px; bottom:30px; overflow:visible;"> <center>i liek u 2</cen...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 05:49, 28 Ionawr 2011
Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a greuwyd gan Satoshi Tajiri yw Mudkip (Japaneg: ミズゴロウ - Mizugorou). Mae Mudkip yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddadwy o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga a'r gemau fideo.
Cymeriad
Daw'r enw Mudkip o'r geiriau Saesneg mud (mwd) a skip (i sgipio). Daw'r enw Siapanëeg Mizugorou o mizu (水 - dŵr) a mutsugorō (ムツゴロウ - math o bysgodyn).
Ffisioleg
Mae Mudkip (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon dŵr sydd yn edrych fel acsolotlau glas bychain gyda bochau oren, cegau a chynffonnau mawr ac esgyll fawr ar eu bennau. Mae gan Mudkip yr allu i saethu dŵr allan o'u cegau.
Ymddygiad
Oherwydd eu fod mor fach, mae Mudkip yn byw a teithio mewn diadellau. Mae pob Mudkip yn amddiffynol iawn o'u ffrindiau. Mae Mudkip yn defnyddio eu esgyll mawr er mwyn synhwyro newidiadau o fewn cerrynt aer a ddŵr. Wrth gwneud hyn gall Mudkip osgoi ysglyfaethwyr. Mae nhw'n cysgu gan claddu eu hunain mewn mwd.
Cynefin
Deiet
Effaith Diwyllianol
Yn Gorffennaf 2010, daliodd Nintendo etholiad i gweld pwy oedd hoff cymeriad chwaraewyr Pokémon. Ennillodd Mudkip yr acolad (Aeth yr ail a trydydd safleydd i Typhlosion a Blastoise).
Mae'r ymadrodd bachog "So i herd u liek mudkipz?" yn enwog o fewn y cymdeithas Pokémon ac ar y wefan 4chan.