Cirgiseg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
dosbarthiad ieithyddol
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:WIKITONGUES- Azim speaking Kyrgyz.webm|bawd|Fideo o ddyn ifanc yn siarad Cirgiseg.]]
[[Ieithoedd Tyrcaidd|Iaith Dyrcaidd]] yn is-deulu'r ieithoedd Altäig yw '''Cirgiseg''' a siaredir yn frodorol gan y [[Cirgisiaid]], sydd yn byw yng [[Cirgistan|Nghirgistan]] ac ym [[Mynyddoedd Pamir]] ar ffiniau [[Tajicistan]], [[Affganistan]], a gorllewin [[Tsieina]]. Perthyna Cirgiseg i gangen ogledd-orllewinol yr ieithoedd Tyrcaidd a elwir ieithoedd Kipchak, ac yn debyg felly i [[Casacheg|Gasacheg]], Karakalpak, a Nogay.
 
Mae'r enghreifftiau cynharaf o Girgiseg ysgrifenedig yn dyddio o'r 19g ac yn cynnwys nodweddion o iaith lafar y Cirgiseg wedi eu hychwanegu at yr iaith [[Tsagadai]] safonol, a hynny drwy gyfrwng [[yr wyddor Arabeg]]. Yn 1924 diwygwyd a safonwyd yr wyddor Arabeg ar gyfer yr iaith, ac yn 1927 newidiwyd i'r [[wyddor Ladin]]. Yn 1941 mabwysiadwyd system o ysgrifennu Cirgiseg ar sail [[yr wyddor Gyrilig]], a dyma'r drefn a barheir hyd heddiw yng Nghirgistan. Defnyddir yr wyddor Arabeg o hyd yn Tsieina.
 
== Dosbarthiad ieithyddol ==
Perthyna Cirgiseg i grŵp y gogledd-orllewin, neu’r Kipchak, yn nheulu’r ieithoedd Tyrcaidd. Y Girgiseg ydy’r drydedd iaith Kipchak fwyaf yn nhermau nifer ei siaradwyr, ar ôl Casacheg a [[Tatareg|Thatareg]]. Mae Cirgiseg modern yn perthyn yn agos iawn i Gasacheg, ac yn hanesyddol cafodd y Cirgisiaid a’r [[Casachiaid]] eu cysylltu ac yn aml eu cymysgu am y rheswm honno. Mae Cirgiseg yn rhannu nodweddion â ieithoedd Tyrcig de [[Siberia]], gan gynnwys [[Altaeg]], ond nid yw ieithyddion yn sicr os ydy Cirgiseg yn tarddu yn uniongyrchol o’r [[Hen Dyrceg]].<ref>Mark Kirchner, "Kirghiz" yn ''The Turkic Languages'', golygwyd gan Lars Johanson ac Éva Á. Csató (Llundain: Routledge, 2006), t. 344.</ref>
 
== Gweler hefyd ==
* [[Llenyddiaeth Girgiseg]]
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
== Ffynonellau ==
* Mark Kirchner, "Kirghiz" yn ''The Turkic Languages'', golygwyd gan Lars Johanson ac Éva Á. Csató (Llundain: Routledge, 2006), tt. 344–56.
 
[[Categori:Cirgiseg| ]]