Cirgiseg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 8:
 
== Dosraniad daearyddol ==
[[Delwedd:Verbreitungsgebiet der kirgisischen Sprache.PNG|bawd|Map o ddosraniad yr iaith Girgiseg yng Nghanolbarth Asia yn yr 21g.]]
Trwy gydol [[Undeb Sofietaidd|yr oes Sofietaidd]], cedwid yr iaith Girgiseg yn gryf gan y Cirgisiaid ethnig a drigasant yng Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Cirgisia, er yr oeddynt yn cyfri am leiafrif o boblogaeth y weriniaeth honno. Yn ôl cyfrifiad 1979, roedd 97.9 y cant o Girgisiaid yn yr Undeb Sofietaidd yn hawlio’r Girgiseg yn famiaith.<ref>J. C. Dewdney, "The Turkic Peoples of the USSR" yn ''The Turkic Peoples of the World'', golygwyd gan Margaret Bainbridge (Abingdon, Swydd Rydychen: Routledge, 2010 [1993]), tt. 243–44.</ref> Er i Rwsieiddio gael mwy o effaith yng Nghirgistan nac yng nghyn-wladwriaethau Sofietaidd eraill Canolbarth Asia, mae llai o bobl yn siarad Rwseg yr ardaloedd gwledig ac mae’r iaith Girgiseg wedi dal ei thir ar draws Cirgistan yn yr 21g.<ref name=Gullette/> Siaredir Cirgiseg gan ryw 5 miliwn o bobl yng Nghirgistan, ac hefyd yn rhannau o Tsieina, Casachstan, Tajicistan, ac Wsbecistan.