Jumabek Ibraimov: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 8:
Dechreuodd Ibraimov weithio i'r Blaid Gomiwnyddol yn 1985, ac yn Rhagfyr fe'i benodwyd yn brif ysgrifennydd y blaid yn Rybachy. Ymunodd â rhengoedd uchaf y blaid yng Nghirgisia yn Ionawr 1988 pryd gafodd ei benodi'n brif ddirprwy bennaeth ar adran gweithgareddau cyfundrefnol y blaid, un o adrannau'r Pwyllgor Canolog. Ym Mawrth 1991 fe'i dyrchafwyd yn ail ysgrifennydd y blaid yn rhanbarth Chui. Yn Nhachwedd 1991, ar fin [[cwymp yr Undeb Sofietaidd]], penodwyd Ibraimov yn ddirprwy gadeirydd Pwyllgor Diogelwch ac Amddiffyn y Sofiet Oruchaf ym Moscfa.<ref name=Independent/>
 
Yn sgil datgymalu'r gweriniaethau Sofietaidd, trodd Ibraimov at fyd busnes. Daeth yn gyfarwyddwr y cwmni cydgyfalaf Janash yn 1992, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn gadeirydd [[Kyrgyzstan AirlinesAba Joldoru]]. Parhaodd yn wleidyddol weithgar, a chafodd ei ethol i'r senedd ddwywaith. Penodwyd yn faer Bishkek yn Ionawr 1993, ac yn ysgrifennydd gwladol i'r Arlywydd [[Askar Akaev]] yn Ionawr 1995. Fe'i penodwyd yn gynghorydd economaidd i'r arlywydd ac yn gynrychiolydd llawnalluog yr arlywydd i Gynulliad y Bobl, uwch siambr y senedd, ym Mawrth 1996. Bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith am gyfnod oherwydd afiechyd, a dychwelodd i fywyd cyhoeddus yn Rhagfyr 1997 yn gadeirydd y Gronfa Eiddo Wladwriaethol, swydd a chanddi statws gweinidog yn y llywodraeth.<ref name=Independent/>
 
Ar 25 Rhagfyr 1998 penodwyd Ibraimov yn brif weinidog Cirgistan gan yr Arlywydd Akaev wedi iddo ddiswyddo'r holl gabinet. Ymdrechodd Ybraimov i gychwyn ar [[preifateiddio|breifateiddio]] cwmnïau cyhoeddus er mwyn gwella'r sefyllfa economaidd ac i mynd i'r afael â llygredigaeth yn y wlad. Wedi deufis yn y swydd, bu'n rhaid iddo gael llawdriniaeth ym Moscfa i drin [[canser y stumog]]. Dychwelodd i'w waith yn niwedd Mawrth 1999, ond bu farw o'i afiechyd ar 4 Ebrill 1999 yn Bishkek yn 55 oed. Bu'n briod a chafodd bedwar plentyn.<ref name=Independent>{{eicon en}} Felix Corley, "[https://www.independent.co.uk/arts-entertainment/obituary-jumabek-ibraimov-1085800.html Obituary: Jumabek Ibraimov]", ''[[The Independent]]'' (8 Ebrill 1999). Adalwyd ar 7 Ionawr 2020.</ref>