Porthmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sotiale (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 159.86.134.39 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan BOT-Twm Crys.
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Defnyddir y gair '''Porthmon''' am rywun sy'n [[Gyrru gwartheg|gyrru anifeiliaid]] dros bellter hir i'w gwerthu. Roedd y porthmyn yn elfen bwysig iawn yn economi Cymru yn y [[18g]] yn arbennig. [[Buwch|Gwartheg]] oedd yn cael eu gyrru gan amlaf, ond byddai [[Dafad|defaid]] a hyd yn oed gwyddau yn cael eu gyrru.
 
Ceir cofnod o borthmyn yn [[gyrru gwartheg]] o Gymru i Loegr i'w gwerthu cyn gynhared a'r [[14g]], ond cyrhaeddodd y fasnach yma ei huchafbwynt yn ystod y [[18g]]. [[Llundain]] oedd y gyrchfan fwyaf poblogaidd i'r porthmyn Cymreig, a datblygodd [[Smithfield]] ar gyrion y ddinas i fod y farchnad anifeiliaid fwyaf yn y byd.mnn
 
Byddai'r porthmyn yn cario symiau sylweddol o arian ar eu taith yn ôl wedi gwerthu'r anifeiliad, ac yn aml roedd pobl eraill oedd angen gyrru arian i rywle arall yn eu roi i'r porthmyn i'w trosglwyddo. Roedd perygl oddi wrth ladron pen-ffordd, a bu hyn yn symbyliad i ddatblygiad nifer i fanciau. Sefydlwyd [[Banc yr Eidion Du]] yn [[Llanymddyfri]] gan borthmon o'r enw David Jones yn [[1799]]. Parhaodd y banc yma nes i Fanc Lloyds ei brynu yn [[1909]]. Sefydlwyd [[Banc y Ddafad Ddu]] gan borthmyn defaid [[Tregaron]] ac [[Aberystwyth]] yn gynnar yn y [[19g]].