Muile: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle|gwlad={{banergwlad|Yr Alban}}}}
 
Un o [[Ynysoedd Mewnol Heledd]] yng ngogledd-orllewinngorllewin [[yr Alban]] yw '''Muile''' ([[Saesneg]]: ''Mull'' neu ''Isle of Mull''). Yn weinyddol, mae'n rhan o [[Argyll a Bute]]. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,667. Y brif dref yw [[Tobermory]].
 
Mae'r enw yn gytras aâ [[Moel]] yn Gymraeg. Gydag arwynebedd o 875&nbsp;km<sup>2</sup>, Muile yw'r ail-fwyaf o Ynysoedd Mewnol Heledd, a'r bedwaredd o ran maint ymhlith holl ynysoedd yr Alban. Ceir nifer o gestyll ar yr ynys: [[Castell Aros]], [[Castell Duart]] a [[Castell Torosay|Chastell Torosay]]. Yn y de-orllewin, mae culfor bychan yn ei gwahanu oddi wrth ynys lai [[Iona]], tra mae [[Ulbha]] yn un o nifer o ynysoedd bychain ger yr arfordir gorllewinol.
 
Mae nifer o gysylltiadau fferi a'r tir mawr: y pwysicaf yw'r fferi rhwng [[Oban]] a [[Craignure]]. Y copa uchaf yr ynys yw [[Ben More]], 966 medr (3,170 troedfedd). Daw llawer o dwristiaid i'r ynys yn yr haf, llawer ohonynt i weld y bywyd gwyllt. Mae Muile yn un o'r mannau gorau ym Mhrydain i wylio'r [[dyfrgi]], ac mae [[Eryr y Môr]] a'r [[Eryr Euraid]] yn nythu ar yr ynys.