Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rheilffordd Ffestiniog"

Ychwanegwyd 20 beit ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
B
|}
 
Mae '''Rheilffordd Ffestiniog''' yn [[rheilffordd]] [[cledrau cul]] (1 [[troedfedd]] ac 11½ [[modfedd]],; [[cledrau597 cul]]mm), yn [[Eryri]], [[Gwynedd]]. Mae'r rheilffordd yn cysylltu [[Porthmadog]] a [[Blaenau Ffestiniog]] ac yn atyniad twristaidd poblogaidd.
 
Adeiladwyd y rheilffordd yn y 19g i gludo [[llechi]] o chwareli Blaenau Ffestiniog i borthladd Porthmadog er mwyn eu hallforio.
==Hanes==
[[Delwedd:Little Giant locomotive engine, Ffestiniog railway NLW3363951.jpg|bawd|chwith|Injan ''Little Giant'' (cab F.R. 6), tua 1875.]]
Ar ddiwedd y 3g ar bymtheg18g, prynodd [[William Alexander Madocks]] dir ar aber [[Afon Glaslyn]], ac wedi adeiladu'r [Y Cob, Porthmadog|Cob]], sydd yn mynd ar draws yr aber, crëwyd harbwr gan lif newydd yr afon. Codwyd adeilad mawr ar ochr arall [[y Cob]] ar gyfer y gweithwyr, sef [[Gweithdy Boston Lodge|Boston Lodge]]; cynrychiolodd Madocks y dref [[Boston]] yn [[San Steffan]].
[[Delwedd:Mountaneer yn gadael Porthmadog.jpg|bawd|300px|Mountaineer yn gadael Porthmadog]]
[[Delwedd:Agosauattanybwlch.jpg|bawd|300px|Trên yn agosáu at Dan y Bwlch]]
Ar un adeg, datblygodd diwydiant enfawr o chwareli llechi yn ardal [[Blaenau Ffestiniog]], ond roedd angen cludo'r llechi ar gerbydau i [[Afon Dwyryd]], ac ar gychod i lawr yr afon at longau hwyliau. Felly hyrwyddwyd y syniad o adeiladu rheilffordd gan [[Samuel Holland]],<ref>[http://www.llechicymru.info/IQPEntrepreneurs.english.htm Gwefan llechi Cymru]</ref> perchennog chwarel yn y [[Rhiw]], a [[Henry Archer]],<ref name="Gwefan Transport Heritage">[http://www.transportheritage.com/find-heritage-locations.html?sobi2Task=sobi2Details&sobi2Id=837 Gwefan Transport Heritage]</ref> dyn busnes o [[Dulyn|Ddulyn]], a phasiwyd deddf yn San Steffan ar 23 Mai 1832.<ref name="colonelstephenssociety.co.uk">[http://colonelstephenssociety.co.uk/the%20colonels%20railways/festiniog%20%26%20welsh%20highland%20light%20railway/festiniog%20railway/index.html Tudalen Rheilffordd Ffestiniog ar wefan Cyrnol Stephens]</ref> i'r perwyl hwn. Arolygwyd ac adeiladwyd y Rheilffordd gan [[James Spooner]] o [[Swydd Gaerwrangon]]. Lled y lein oedd 23.5 modfedd, yr un maint a ddefnyddiwyd yn y chwareli. Adeiladwyd y lein rhwng 1833 a 1836.
 
Defnyddiwyd disgyrchiant yr holl ffordd i lawr i Borthmadog, a cheffylau i dynnu'r wagenni gweigion yn ôl i'r chwareli. Aeth y ceffylau i lawr i BorthmadocBorthmadog mewn wagenni 'dandy'. Daeth y rheilffordd yn brysurach, ac roedd angen pŵer cryfach i dynnu'r cerbydau; ond ni chredwyd fod locomotifau stêm yn ymarferol ar gledrau mor gul.
[[Delwedd:Lew01LB.jpg|bawd|300px|chwith|''Lew'' ar y Cob]]
Cyhoeddwyd amserlen gan Charles Easton Spooner ym 1856, efo 6 trênthrên pob dydd i lawr o 'Quarry Terminus' (Cyffordd Dinas) i Boston Lodge, yn stopio yn 'Twnnel', Hafod y Llyn a Rhiw Goch; cymerodd y trên gyflymach 1 awr 32 munud. Daeth 2 ddyn ar bob trên i'w rheoli gyda brêcs. Tynnwyd y trenau ymlaen o Boston Lodge i Borthmadog gan geffylau.
 
Cymerodd trenau yn ôl i fyny bron 6 awr, a phob trên yn cynnwys 6 wagen lechi wag a wagen dandy. Roedd yr amserlen yn ddigonol i gario 70,000 o dunelli o lechi.<ref name="colonelstephenssociety.co.uk"/>
 
Daeth [[Charles Easton Spooner]], mab James, yn rheolwr y rheilffordd ym 1856. Arwyddodd gytundebau efo George England a'i Gwmni, Llundain ar gyfer pedwar o locomotifau. Cyrhaeddodd ''The Princess'' a ''Mountaineer'' yng Ngorffennaf 1863, a ''The Prince'' a ''Palmerston'' ym 1864. Caniatawyd trenau ar gyfer teithwyr yn ystod yr un flwyddyn. Defnyddiwyd disgyrchiant ar y ffordd i lawr, ac aeth locomotifau i lawr ar wahan. Stopiodd trenau yn Nhanygrisiau, Hafod y Llyn (Tan y Bwlch o 1872 ymlaen) a Phenrhyndeudraeth,; phasioddpasiodd trenau ar y dde, fel y maent hyd at heddiw.<ref name="colonelstephenssociety.co.uk"/>
 
Cyrhaeddodd ''Welsh Pony'' a ''Little Giant'' ym 1867, a daeth y lein yn brysurach; felly yn 1869, pasiwyd deddf yn caniatáu trac dwbl. Buasai hynny'n gostfawr iawn, a datryswyd y broblem drwy ddefnyddio locomotifau Fairlie. Roedd Robert Fairlie wedi cynllunio locomotif hyblyg,<ref name="Gwefan Transport Heritage"/> efo un boilar ar ddau fogi, efo caban canolog i'r gyrrwr a'r dyn tân. Arddangoswyd 'Little Wonder' ar y rheilffordd ym 1870. Dilynodd 'James Spooner' ym 1872, ac ym 1876, Taliesin, injan mwy confensiynol. Erbyn hyn roedd Boston Lodge yn weithdy sylweddol, ac adeiladwyd 'Myrddin Emrys' ym 1879 a 'Livingston Thompson' ym 1886. Adeiladwyd cerbydau 15 ac 16 ym 1873, y cerbydau cyntaf efo bogis ym Mhrydain.
 
Defnyddiwyd disgyrchiant gan drenau llechu hyd at 1939, a daeth y trenau'n hirach; yn aml iawn, mwy nag 80 wagen efo 3 dyn i arafu trên. Erbyn 1900, daeth 9 trên i lawr a 9 i fyny i [[Duffws|Dduffws]], yn stopio ym Minffordd, Penrhyndeudraeth, Tan y Bwlch, Dduallt, Tanygrisiau, Blaenau (LNWR) a Blaenau (GWR). Cymerodd y siwrnai i fyny dim ond awr. Defnyddiwyd breciau gwacter o 1893 ymlaen.<ref name="colonelstephenssociety.co.uk"/>
 
Ym 1872, adeiladwyd culffyrdd gyfnewid ym [[Minffordd]], yn rhoi cysylltiad i'r [[Rheilffordd y Cambrian]]. Ond efo cyrhaeddiad rheilffyrdd eraill i Flaenau Ffestiniog, agorwyd ffyrdd eraill i'r cludiant llechi. Ac erbyn diwedd y 19g, dechreuodd y [[Diwydiant llechi Cymru|diwydiant llechi yng Nghymru]] ddirywioddirywyo, a chafwyd cyfres o streiciau hir.
 
Erbyn y 1920au, roedd twristiaid mor bwysig i'r rheilffordd â'r diwydiant llechi, sydd wedi crybachu'n sylweddol erbyn y 1920au. Ym 1921, prynodd Corfforiaeth Alcam (o [[Dolgarrog|Ddolgarrog]] cyfran reolaethol yn y rheilffordd. Daeth Henry Jack yn gadeirydd. Roedd o'n gadeirydd Rheilffordd Eryri hefyd.
539

golygiad