Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Isabelle o Ffrainc"

Ychwanegwyd 2 feit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
Cafodd Isabelle ei geni ym [[Paris|Mharis]], yn ferch i'r brenin [[Philippe IV, Brenin Ffrainc|Philippe IV]] ac yn chwaer i dri o frenhinoedd [[Ffrainc]].
 
A hithau'n ferch 14 oed, bu rhaid iddi briodi [[Edward II, obrenin LoegrLloegr]], mab y brenin [[Edward I, obrenin Loegr|Edward ILloegr]], yn 1308. Diflasodd yn llwyr ar ei ŵr ar croeso llugoer a gawsai yn llys Lloegr, a dychwelodd i Ffrainc yn 1325 ar ôl i'w frawd [[Siarl IV, obrenin Ffrainc]] gipio llawer o diriogaethau'r Saeson yn Ffrainc.
 
Syrthiasai mewn cariad â'r barwn [[Roger de Mortimer]] (Iarll [[y Mers]] yn ddiweddarach) tra yn Lloegr, ac yn 1326 arweiniodd Isabelle fyddin i Loegr. Trechodd fyddin Edward II a gorfododd iddo ildio gorsedd Lloegr i'w mab, [[Edward III o Loegr|Edward]], a oedd yn fwy derbyniol i'r barwniaid. Rheolodd Isabelle a'i chariad Roger de Mortimer yn enw Edward, a oedd yn rhy ifanc i fod yn frenin. Yn 1327 llofruddiwyd Edward yng Nghastell Berkeley, ar orchymyn Roger ac Isabelle yn ôl pob tebyg.