Noson y Cyllyll Hirion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Bu farw o leiaf 85 o bobl yn ystod y cliriad, er mae'n bosib fod cannoedd yn fwy wedi marw,<ref name="Evans 39">Evans (2005), p. 39. "At least eighty-five people are known to have been summarily killed without any formal legal proceedings being taken against them. Göring alone had over a thousand people arrested."</ref><ref>Kershaw, ''Hitler'', (1999), p. 517. "The names of eighty-five victims [exist], only fifty of them SA men. Some estimates, however, put the total number killed at between 150 and 200."</ref> a bod miloedd o bobl a ystyriwyd yn fygythiad wedi eu harestio. <ref name="Evans 39" /> Lladdwyd y rhan fwyaf gan y ''[[Schutzstaffel]]'' (SS) a'r ''[[Gestapo]] (Geheime Staatspolizei)'', [[heddlu cudd]] y gyfundrefn. Cryfhaodd y cliriad gefnogaeth y Reichswehr i Hitler. Darparodd sylfeini cyfreithiol i'r gyfundrefn Natsïaidd hefyd, am fod y llysoedd Almaenig a'r cabinet wedi anwybyddu canrifoedd o waharddiadau cyfreithiol yn erbyn lladd cyfreithiol er mwyn dangos eu teyrngarwch i'r gyfundrefn.
 
Cyn gweithredu'r cynllwyn, weithiau arferai'r cynllunwyr gyfeirio ato fel "[[Hummingbird]]" (Almaeneg: ''Kolibri''}}), oherwydd dyna oedd y gair côd er mwyn gweithredu'r criwiau dienyddio ar ddiwrnod y puro.<ref>Kershaw, ''Hitler'', (1999), p. 515.</ref> Ymddengys mai ar hap a damwain y dewiswyd enw'r cynllun. Daw'r ymadrodd "Noson y Cyllyll Hirion" yn Almaeneg o gyfnod cyn y digwyddiad ei hun, ac fe'i ddefnyddir yn gyffredinol i gyfeirio at weithred o ddialedd. Mae Almaenwyr yn dal i ddefnyddio'r term "''Röhm-Putsch''" ("Röhm coup d’état") i ddisgrifio'r digwyddiad, oherwydd dyna oedd y term a ddefnyddiwyd gan y Natsïaid ar y pryd, er gwaetha'r awgrym fod y llofruddiaethau'n angenrheidiol er mwyn osgoi ''coup''. Er mwyn pwysleisio hyn, mae awduron Almaenig yn defnyddio dyfynodau neu'n ei ddisgrifio fel ''yr hyn a ddywedir oedd'' Röhm-Putsch.<ref>{{dyf gwe |teitl="Röhm-Putsch"|cyhoeddwr=Deutsches Historisches Museum (DHM), Amgueddfa Hanesyddol yr Almaen|url=http://www.dhm.de/lemo/html/nazi/innenpolitik/roehm/index.html |accessdate=2007-10-14}}</ref>
 
==Cyfeiriadau==