D. W. Griffith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B Newid maint llun
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
Cyfeiriadau (cyswllt Cymreig DWG)
Llinell 6:
}}
 
Cyfarwyddwr ffilm Americanaidd oedd '''David Llewelyn Wark Griffith''' (22 Ionawr 1875 - 23 Gorffennaf 1948<ref name="obit">{{cite news|coauthors=|title=David W. Griffith, Film Pioneer, Dies; Producer Of 'Birth Of Nation,' 'Intolerance' And 'America' Made Nearly 500 Pictures Set, Screen Standards Co-Founder Of United Artists Gave Mary Pickford And Fairbanks Their Starts.|url=|quote=|work=New York Times|date=Gorffennaf 24, 1948|accessdate=Gorffennaf 21, 2007}}</ref>), a anwyd yn La Grange, [[Kentucky]], UDA<ref>{{Cite web|url=http://www.gildasattic.com/dwgriffith.html|title=D. W. Griffith (1875-1948)|date=Awst 10, 2002|access-date=Ionawr 16, 2020|website=Gilda Tabarez|last=Drew|first=William M.|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>. Roedd yn fab i Gymro<ref>{{Cite web|url=https://www.geni.com/people/NN-Griffith/6000000059663209165|title=LD. NN Griffith (Barrington/Brayington)|date=Mai 28, 2017|access-date=Ionawr 16, 2020|website=geni.com|last=Cota|first=Alfred "Ed Moch"|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> a chyn-swyddog yn y fyddin y Confederate (Y Cyrnol "Roaring Jake" Griffith) a fu farw (yn 1885) o glwyfau a gafodd yn ystod [[Rhyfel Cartref America]] pan oedd Griffith yn 10 oed. Fe'i hystyriwyd yn un o dadau'r ffilm naratif<ref name=":0">{{Cite book|title=The Oxford History of World Cinema|last=Nowell-Smith|first=Geoffrey (gol)|publisher=Gwasg Prifysgol Rhydychen|year=1996|isbn=0198742428|location=Oxford|pages=}}</ref>. [[Delwedd:The adventures of Dollie.webm|300px|chwith|The Adventures of Dollie(1908)]]Yn ei ugeiniau cychwynnodd gyrfa, aflwyddiannus braidd, ar y llwyfan. Yn 1907, yn dilyn methiant ei gynhyrchiad ''A Fool and a Girl'', fe drodd ei olygon at [[Hollywood]], gan ysgrifennu ag actio i gwmnïoedd ''Edison'' a ''Biograph''. Yn 1908 cafodd swydd fel cynhyrchydd gan ''Biograph'' a cychwynnodd ei yrfa go iawn. Hyd at 1913 cynhyrchodd dros 400 o ffilmiau i'r cwmni - gan orffen gyda ''Judith of Bethulia'' (ffilm 4 rîl a rhyddhawyd yn 1914). Yn ystod y cyfnod hwn datblygodd ei grefft yn aruthrol - yn arbennig agweddau golygu a pherfformio. Daeth yn enwog am olygu crefftus yr "achub munud olaf". Cafodd yr agweddau yma dylanwad mawr ar y diwydiant - gan wneud ''Biograph'' yn flaengar iawn<ref name=":0" />.
 
Yn 1913 gadawodd Griffith ''Biograph'' i dorri ei gŵys ei hun. Ar ôl cyfnod byr o arbrofi, cynhyrchodd ''The Birth of a Nation'' (a rhyddhawyd yn Ionawr 1915), a sicrhaodd ei le yn y llyfrau hanes. Hon oedd y ffilm hiraf a mwyaf cymhleth erioed ar y pryd (ryw 3 awr o hyd dros 12 rîl). Seiliwyd y naratif (sy'n cynnwys elfennau hanesyddol a dychmygol am [[Rhyfel Cartref America|Ryfel Cartref America]] a'r cyfnod yn syth ar ei ôl) ar nofel a drama gan Thomas Dixon Jr., o'r enw ''The Clansman''. (''The Clansman'' oedd enw gwreiddiol y ffilm, hefyd.) Fel mae'r enw hwn yn awgrymu, mae gryn ystyriaeth garedig o'r Klu Klux Klan yn y ffilm. Yn wir fe atgyfnerthwyd y gymuned hiliol honno yn sylweddol gan ei ymddangosiad. Oherwydd hyn, erys y ffilm yn un dadleuol iawn (fel y bu ar y pryd) - ac, o'r herwydd, yn hanesyddol. (Fe'i dyfarnwyd o bwys hanes diwylliant America gan [[Llyfrgell y Gyngres|Lyfrgell Cyngres]] yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]] yn 1992.) Am weddill ei yrfa bu Griffith yn amddiffyn a gwneud yn iawn am yr agwedd hon o'i gampwaith technegol. Y cam gyntaf oedd ei ffilm nesaf, ''Intolerance'' (1916), a llwyddodd i fod yn hyd yn oed yn fwy mawreddog ym mhob ffordd. Fel yr awgrymir gan y teitl, 'roedd hwn yn ymgais uniongyrchol gan Griffith i ateb yr honiad ei fod yn ddyn hiliol. Yn y drydedd o'i ffilmiau gorau, ''Broken Blossoms'' (1919), aeth Griffith un cam ymhellach i ateb y feirniadaeth. Fe sicrhaodd mai o [[Tsieina]] y daw cymeriad positif y ffilm (Cheng Huan). Er dyn gwyn (Richard Barthelmess) a'i hactiodd !<ref name=":0" />.