Barzaz Breiz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Deri Tomos (sgwrs | cyfraniadau)
B Cywiro fformat dyddiadau
Llinell 6:
Cyfrol Villemarqué oedd yr ymgais cyntaf i gasglu a chyhoeddi cerddoriaeth Lydewig draddodiadol, ar wahân i [[emyn]]au. Cyn hynny, roedd y llenyddiaeth lafar hon ar gael mewn addasiadau [[Ffrangeg Canol]] yn unig, yn dyddio o'r 13g ymlaen, ond fel yn achos y chwedlau am [[Arthur]], cafodd y chwedlau eu newid yn sylweddol yn nwylo llenorion anghyfiaith gan adlewyrchu eu diwylliant hwy yn hytrach na diwylliant Llydaw.
 
Cafodd y ''Barzaz Breiz'' gylchrediad eang a bu'n gyfrol ddylanwadol iawn ymhlith Celtigwyr [[Rhamantiaeth|Rhamantaidd]]. Roedd yr hynafiaethydd [[Carnhuanawc]], cyfaill Villemarqué yng Nghymru, yn edmygu'r gwaith yn fawr. Beth bynnag am ei ffaeleddau - beiau safonau ymchwil yr oes yn bennaf - daeth y ''Barzaz Breiz'' â diwylliant gwerin Llydaw i sylw gweddill Ewrop am y tro cyntaf. Un o'r caneuon mwyaf hynafol yn y casgliad yw honno sy'n adrodd chwedl [[Kêr-Ys]] ("[[Cantre'r Gwaelod]]" y Llydäwyr). Hefyd o ddiddordeb i ddarllenydd Cymraeg yw'r cyswllt rhwng hanes Llydewig Skolan ([https://www.youtube.com/watch?v=pdKcXdbSvsU ceir fersiwn wedi'i recordio] gan Anne Auffret<ref>{{Cite web|url=https://br.wikipedia.org/wiki/Anne_Auffret|title=Anne_Auffret|date=|access-date=Awst 29/8/, 2018|website=Wikipedia Llydaweg|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>) a sawl llawysgrif Cymraeg o'r Canol Oesoedd (yn enwedig [[Llyfr Du Caerfyrddin]], ond hefyd cywydd ''Chwarae Cnau i'm Llaw'' gan [[Dafydd ap Gwilym]]<ref name=":0" />).
 
==Cyfeiriadau==