Metel daear alcalïaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dadwneud y golygiad 9070309 gan 193.39.172.62 (Sgwrs | cyfraniadau)
Tagiau: Dadwneud
Dim crynodeb golygu
Llinell 27:
Rhoddwyd yr enw '''metelau daear alcalïaidd''' i’r grŵp hwn ar sail priodweddau eu [[metel ocsid|hocsidau]]. Galwyd yr ocsidau hyn yn '''ddaearau alcalïaidd''' gan fod eu priodweddau rhwng priodweddau ocsidau alcalïaidd grŵp I a’r daearau prin, sef ocsidau cymharol anadweithiol y [[lanthanid]]au.
 
Tarddiad y gair ddaear yn yr achos hwn yw cysyniadau’r [[Groegiaid]] am bedwar '''elfen''', sef tan, dŵr, aer a daear. Defnyddiwyd y sail hon gan nifer o [[alcemeg]]wyr ac [[athroniaeth|athronwyr]], yn cynnwys [[Aristotle]] ([[4ydd ganrif4g CC]]), [[Paracelsus]] (hanner cyntaf [[16g]]), [[J. J. Becher|John Becher]] ([[17g]]) a [[Georg Ernst Stahl|Georg Stahl]] (17g hwyr), gyda’r rhain yn rhannu’r daearau i dri grŵp llai. Y gwyddonydd cyntaf i ystyried y daearau fel [[cyfansoddyn|cyfansoddion]] oedd [[Antoine Lavoisier]]. Yn ei gyfrol ''Traité Élémentaire de Chimie'' (''Elfennau Cemeg'') yn [[1789]] galwodd y metelau daear alcalïaidd yn ''Substances simples salifiables terreuses'', neu’r elfennau daear sy’n ffurfio [[halwyn]]au. Yn hwyrach, awgrymodd mai ocsidau oedd y cyfansoddion hyn, ond nid oedd yn sicr. Ar ôl darllen syniadau Lavoisier, defnyddiodd [[Humphry Davy]] electrolysis i echdynnu’r elfennau a’u hynysu am y tro cyntaf yn [[1808]].
 
== Priodweddau ==