Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwyddbwyll"

Ychwanegwyd 554 beit ,  6 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
Dylid chwarae'r gêm gyda'r brenin yn y canol a deuddeg o ddynion o'i gwmpas, gyda dau-ddeg-pedwar o ddynion yn ceisio ei ddal. Gosodir y rhai hyn fel a ganlyn: chwech yng ngahanol pob ochr o'r bwrdd yn y chwe man canolig. Mae'r ddau berson yn symud y darnau. Os oes darn yn dod rhwng dau o ddarnau'r gwrthwynebwr yna mae'n marw, a theflir y darn allan o'r gêm. Ond os yw'r brenin ei hun yn dod rhwng dau o ddarnau ei wrthwynebydd, yna os dywedwch "Cym bwyll, gwylia dy frenin!" cyn iddo symud i'r rhan honno (hy rhwng dau ddarn) ac os na all symud, yna mae'n cael ei ddal. Os yw eich gwrthwynebwr yn dweud "Fi yw dy was!" ac yn rhoi un o'i ddarnau rhwng dau o'ch darnau chi, yna ddaw dim drwg o hynny. Ac os yw'r brenin yn medru cyrraedd y linell..., mae'n ennill y gêm.
</blockquote>
 
==Gwyddbwyll mewn Diwylliant Cymraeg Cyfoes==
Ceir cyfeiriad i'r gêm gwyddbwyll fel ceffelybiaeth yn y gân rap, ''Gwyddbwyll'' gan [[Y Tystion]]:<ref>https://www.youtube.com/watch?v=ngPQzI5rEqE</ref> oddi ar eu CD "Rhaid i rhybweth Ddigwydd" o 1997. Cafwyd hefyd fersiwn o'r gân rhwng y grŵp a'r cerddor eiconig [[John Cale]] yn y flwyddyn 2000.<ref>https://www.youtube.com/watch?v=uBz3kaQ1S0A</ref>
<poem>
''Galla' i ddim diodde'r twyll''
''jyst teimlo fel darn mewn gêm o wyddbwyll''<ref>https://www.youtube.com/watch?v=BWuKdsiP-5Q</ref>
</poem>
 
==Oriel==