Anarchiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.5.1) (robot yn ychwanegu: ckb:ئانارکیزم
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu is benawdau ar wahannol mathau o anarchiaeth ac esboniad ohonynt
Llinell 1:
{{ideolegau}}
[[Ideoleg]] [[gwyddor gwleidyddiaeth|wleidyddol]] a mudiad [[cymdeithas]]ol sydd o blaid diddymu unrhyw fath o [[gwladwriaeth|wladwriaeth]] a'i disodli gyda chyfundrefn wirfoddol yw '''anarchiaeth''' (o'r geiriau [[Groeg (iaith)|Groeg]] αν 'heb' + αρχειν 'rheoli' + ισμός ,o'r gwraidd -ιζειν : 'heb archoniaid', 'heb reolwyr'). Mae gan anarchiaeth amryw eang o ffurfiau, o anarchwyr egöistig sydd yn gwrthwynebu pob system moesol i anarchwyr gyfalafol a chredai mewn masnach rhydd heb unrhyw ymyrraeth o'r stad hyd at anarchwyr cymdeithasol; sosialwyr yn gwrth i'r wladwriaeth a chyfalafiaeth.
 
==Anarchiaeth Unigolyddol==
Rhoddir anarchiaeth unigolyddol pwyslais ar ewyllys yr unigolyn yn erbyn rheolaeth allanol megis y wladwriaeth, crefydd, ideoleg, moeseg ac ati gan eraill. Mae gan yr athroniaeth sawl amrywiant, rhai yn gwrthwynebiaeth i'w gilydd. Y ffurf mwyaf eithafol o anarchiaeth unigolyddol yw egoistiaeth, math o nihiliaeth a wrthwyneba pob math o foeseg. Gwelir yr hyn sydd gan ddyn y grym i'w wneud fel yr hyn sydd yn cyfiawn, ac y dylai unigolion gweithio am les ei hun yn unig. Enghreifftiau o'r fath anarchwyr yw'r Marquis de Sade (o le ddaw'r air "''Saddism''" yn Saesneg, a golygir cael pleser trwy rhoi poen i eraill) a Max Stirner. Math arall o anarchiaeth unigolyddol yw anarchiaeth gyfalafol a gredir yng nghymdeithas heb lywodraeth, masnach cwbl rhydd a pharch naturiol at hawliau eiddo. Er ei syniadau eithafol, nid yw anarchiaeth unigolyddol yn cefnogol o chwyldro fel modd o gyrraedd ei amcanion - gwelir chwyldro fel gweithred gyfunol fel modd o greu ymosodiadau newydd ar ewyllys yr unigolyn. Yn hytrach, trwy lwybrau esblygol mae anarchwyr unigolyddol yn gweld cyrhaeddiad ei syniadau. I rai anarchwyr egoistiaeth osgoi ac anwybyddu y wladwriaeth a chyfyngiadau ar ewyllys yr unigolyn yw'r unig amcan.
 
==Anarchiaeth Gymdeithasol==
Ideoleg a chwympiff dan gategori mwy eang sosialaeth rhyddfrydol yw anarchiaeth gymdeithasol neu anarchiaeth sosialaidd. Gelwir am gymdeithas lle bu'r ffurf gynhyrchu yn nwylo'r gweithwyr ac eiddo mewn perchnogaeth cymunedol, gydag unigolion yn cydweithio mewn grwpiau gwirfoddol, democrataidd heb hierarchaeth. Gwelir rhai anarchwyr y grwpiau gwirfoddol yma yn cydweithio gydag eraill ar haenau uwch mewn modd ffederal (eto gwirfoddol), er mwyn wneud penderfyniadau uwch. Bu'n gwrthwynebu'r wladwriaeth yn ogystal i gyfalafiaeth - gwelir y ddau yn ynghlwm, y wladwriaeth yn amddiffyn hawliau eiddo ac felly cyfalafiaeth. Yn ôl anarchwyr gymdeithasol felly mae anarchiaeth gyfalafol yn fath o hunan gwrthgyferbyniad, cymdeithas amhosib. Bwysig nodi nid yw anarchiaeth gymdeithasol yn dechnegol yn gwrthwynebu llywodraeth - sef ymgorfforiad o ewyllys gwleidyddol, ond y wladwriaeth - sefydliad canolig o lywodraeth anwirfoddol gyda monopoli dros y defnydd o drais. Llywodraeth gyda chaniatâd mae anarchiaeth gymdeithasol yn cefnogi. Serch hyn, yn iaith pob dydd lle ddefnyddir y geiriau llywodraeth a gwladwriaeth yn ymgyfnewidiol mae'n deg i ddweud bod anarchwyr gymdeithasol yn gwrthwynebu'r llywodraeth.
 
Cymdeithas [[Comiwnyddiaeth|comiwnyddol]] yw un anarchiaeth gymdeithasol felly. Ond er ei bod hefyd yn ideoleg chwyldroadol, yn wahanol i [[Marcsiaeth|Farcsiaeth]] nid yw'n galw am gyfnod o wladwriaeth sosialaeth cyn gyrraedd gomiwnyddiaeth. I anarchwyr cymdeithasol mae gwladwriaeth sosialaidd, neu wladwriaeth ddemocrataidd yn amhosib, gan ni ellid ymgorffori y pobl (y dosbarth gweithiol) o fewn gwladwriaeth oherwydd ei natur canolig a gorfodol. Rhaid chwalu y wladwriaeth er mwyn chwalu cyfalafiaeth, nid defnyddio'r wladwriaeth yn erbyn cyfalafiaeth. Dywedodd yr anarchydd Mikhail Bakunin ar y gwrthgyferbyniad elfennol gwelodd ym Marcsiaeth, "er mwyn rhyddhau y pobl rhaid gyntaf eu caethiwo"<ref>[http://www.marxists.org/reference/archive/bakunin/works/1873/statism-anarchy.htm Mikhail Bakunin, ''Statism and Anarchy'']</ref>.
 
Mae'r modd o gyrraedd y gymdeithas yn holl bwysig i anarchiaeth gan ei fod yn adlewyrchu egwyddorion yr ideoleg. Gwrthwyneba anarchiaeth gymdeithasol pleidiau gwleidyddol oherwydd ei natur gyfunol, hierarchaidd, yn enwedig felly y plaid canolig, blaengad Marcsiaeth-Leninaeth. Credir y dylai'r gweithwyr ei hun ymgymryd 'oll yn y chwyldro yn erbyn cyfalafiaeth - ac maent yn dal yr egwyddor yma yn gyson ar bob enghraifft o ormes, hynny bod rhaid i ddioddefwyr yr ormes eu hun dinistrio'r ormes. Os na, fe droiff ryddhawyr yn ormeswyr eu hun. Rhan hanfodol o arfer anarchwyr felly yw codi ymwybyddiaeth ymysg y poblogaeth o'u hachos a gweithredu trwy grwpiau gwirfoddol (yn aml dros dro) a weithiwyd mewn modd consensws, yn debyg i'r ffordd a rhagwelwyd cymdeithasau yn gweithredu mewn cymdeithas anarchol.
===Gweler hefyd===
*[[Nihiliaeth]]
*[[Comiwnyddiaeth]]
*[[Gwladwriaeth]]
 
== Cyfeiriadau ==
{{eginyn gwleidyddiaeth}}
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Anarchiaeth| ]]