Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Helygen"

Lleihawyd o 8 beit ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) iOS app edit
==Y blodau==
[[Delwedd:Young-catkin.jpg|thumbnail|Cynffonau Ŵyn Bach]]
Ymddengys y blodau gwryw a benyw fel [[cynffonau ŵyn bach]] ar wahanol blanhigion; tyfant ar ddechrau'r gwanwyn yn aml iawn cyn i'r dail dyfu. Nid oes gan y blodau gwryw na benyw [[calycs|galycs]] na [[pistil|phistil]].
 
==Mathau niferus==
 
===Gwiail===
Mewn rhai ardaloedd, lle mae’r tir yn weddol gorsiog, fel yng [[Gwent|Ngwent]] a [[Gwlad yr Haf]], tyfir mathau arbennig o helyg (yr helygen wiail, ''Salix viminalis'', yn bennaf) fel crop, hyd heddiw, i gynhyrchu gwiail i’w plethu’n fasgedi a dodrefn ‘wickerwork’‘''wickerwork''’. ayyb. Ar un adeg ceid ‘gwinllan helyg’ bron ym mhob ardal, lle byddid yn bon-dorri helyg yn rheolaidd i gynhyrchu gwiail main ar gyfer basgedwyr proffesiynnol a chrefftwyr eraill cefn gwlad.</br>
 
Am fasgedi o bob math y byddai’r galw mwyaf ac fe’u gwerthid yn y ffeiriau, marchnadoedd lleol a siopau, e.e: basgedi amaethyddol – i hel [[tysan|tatws]] a ffrwythau, neu i gario bwydydd anifeiliaid; basgedi marchnad – i arddangos a gwerthu bob dim o fara i bysgod; basgedi tŷ – fel y fasged ddillad, basged wnîo, basged neges, basged y gath a hyd’noed y fasged bicnic i fynd am dro i lan y môr; basgedi ffansi – daeth basgedi addurniadol, wedi eu plethu yn batrymau efo gwiail o wahanol liwiau, yn eu holau yn ffasiynnol iawn yn sgîl yr adfywiad fu ym myd crefftau celfyddydol ers y 1990au.</br>
Defnydd hynafol arall o wiail oedd i wneud clwydi a hefyd plethwaith ar gyfer adeiladu waliau mewn hen dai (wedi eu plastro hefo mwd neu blastar calch). Hefyd [[gwenyna|cychod gwenyn]], cewyll i ddal [[cimwch|cimychiaid]], rhaffau a fframiau [[cwrwgl|cyryglau]] – mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd. Byddai cynhyrchu’r holl offer a nwyddau hyn yn rhoi gwaith i fasgedwyr a phlethwyr ac yn sail i ddiwydiant cefn gwlad eitha sylweddol ar un adeg.<ref name=Elias2006>Tynnwyd yn helaeth o addasiad o ysgrif ddarlledwyd ar Radio Cymru: ‘Natur Wyllt’, Rhagfyr 2005 a ‘Galwad Cynnar’, Ebrill 8fed, 2006 gan Twm Elias</ref>
 
Defnydd hynafol arall o wiail oedd i wneud clwydi a hefyd plethwaith ar gyfer adeiladu waliau mewn hen dai (wedi eu plastro hefo mwd neu blastar calch). Hefyd [[gwenyna|cychod gwenyn]], cewyll i ddal [[cimwch|cimychiaid]], rhaffau a fframiau [[cwrwgl|cyryglau]] – mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd. Byddai cynhyrchu’r holl offer a nwyddau hyn yn rhoi gwaith i fasgedwyr a phlethwyr ac yn sail i ddiwydiant cefn gwlad eitha sylweddol ar un adeg.<ref name="Elias2006">Tynnwyd yn helaeth o addasiad o ysgrif ddarlledwyd ar Radio Cymru: ‘Natur Wyllt’, Rhagfyr 2005 a ‘Galwad Cynnar’, Ebrill 8fed, 2006 gan Twm Elias</ref>
 
===Golosg a thanwydd===
 
==Llên gwerin==
Mae cryn dipyn o [[llên gwerin|lên gwerin]] am yr helygen, a llawer ohono yn codi o’r disgrifiad yn Salm 137 o’r [[Iddewon]] ynghaeth yn [[Babilon]]: ‭''Wrth afonydd Babilon, yno yr eisteddasom,‬ ac wylasom, pan feddyliasom am Seion. Ar yr helyg o’i mewn y crogasom ein telynnau.''<ref>‭Beibl William Morgan ‬(1588)</ref>. A chymaint oedd pwysau’r holl delynnau nes gwyrai’r canghennau tua’r llawr – fel petaent yn wylo. Dyna darddiad y ddelwedd o’r ‘''helygen wylofus''’ – yn wylo mewn cydymdeimlad â’r Iddewon yn eu caethiwed. Stori dda, ond, gwaetha’r modd, ddim yn hollol iawn. Oherwydd nid yr helygen fyddai ym Mabilon ond y [[poplysen wen|boplysen]]!. Gwnaethpwyd y camgymeriad yn y cyfieithiad gwreiddiol i’r iaith Groeg mae’n debyg<ref>‭Oxford Dictionary of Plant Lore‬ (1995), Vickery R.</ref>. Ond roedd y syniad mai’r helygen oedd ym Mabilon wedi gwreiddio cymaint fel pan ganfyddwyd helygen wylofus go iawn – efo’i changhennau yn plygu’n naturiol tua’r llawr, yn [[Tsieina]], ddiwedd y 17g (daethpwyd â hi i’r wlad yma fel planhigyn gardd yn 1692), fe’i galwyd yn‭ ''Salix babylonica''‬ (er na fu cysylltiad Babilonaidd, botanegol o leiaf, erioed!)
 
Mae’r cysylltiad rhwng yr helygen a‭ ‬galar‭ ‬neu dristwch yn dal hefo ni – dyma pam y gwelwch ganghennau wylofus yr helygen yn addurn ar gerrig beddau a chardiau cydymdeimlo hyd heddiw.<ref name=Elias2006 />
gwelwch ganghennau wylofus yr helygen yn addurn ar gerrig beddau a chardiau
cydymdeimlo hyd heddiw.<ref name=Elias2006 />
 
==Cap Gwiail==
Yng Nghymru, rhyw ddwy ganrif yn ôl, roedd yn gyffredin i gysylltu’r helygen â thristwch colli cariad. Cyfeiria Marye Trevellyan (1909) at hynny<ref>‭Folk Lore & Folk Stories of Wales ‬(1909), Trevellyan M.</ref>, a’r arfer Cymreig o wisgo cap wedi ei blethu o wiail os oeddech wedi cael eich gwrthod gan eich cariad. Roedd arfer tebyg – o yrru ‘ffon wen’ neu damaid o bren collen wedi ei risglo i rywun yr oeddech yn ei wrthod neu ei gwrthod. A hynny am fod chwarae ar eiriau rhwng ‘collen’ a ‘colli’ mae’n debyg.<ref name=Elias2006 />
Yng Nghymru, rhyw ddwy ganrif yn ôl, roedd yn gyffredin i gysylltu’r helygen â
thristwch colli cariad. Cyfeiria Marye Trevellyan (1909) at hynny<ref>‭Folk Lore & Folk Stories of Wales ‬(1909), Trevellyan M.</ref>, a’r arfer Cymreig o wisgo cap wedi ei blethu o wiail os oeddech wedi cael eich gwrthod gan eich cariad. Roedd arfer tebyg – o yrru ‘ffon wen’ neu damaid o bren collen wedi ei risglo i rywun yr oeddech yn ei wrthod neu ei gwrthod. A hynny am fod chwarae ar eiriau rhwng ‘collen’ a ‘colli’ mae’n debyg.<ref name=Elias2006 />
 
==Cywion gwyddau==
Anlwc o’r mwyaf yw dod â blodau’r helyg, y ‘cywion gwyddau’ i’r tŷ yn y gwanwyn rhag i hynny amharu ar ddeoriad y cywion gwyddau go iawn dan yr ŵydd<ref>‭Discovering the Folklore of Plants ‬(1996), Baker M</ref>. Ceid y goel hon am flodau eraill y gwanwyn hefyd – megis [[briallen|briallu]] (fyddai’n amharu ar ddeoriad y cywion ieir), ‘cynffonnau ŵyn bach’ (fyddai’n amharu ar lwyddiant yr ŵyna, ayyb). Tebyg mai rhyfygu oeddech wrth ddod â’r blodau hyn i’r tŷ drwy gymeryd y gwanwyn yn rhy ganiataol.<ref name=Elias2006 />
Anlwc o’r mwyaf yw dod â blodau’r helyg, y ‘cywion gwyddau’ i’r tŷ yn y gwanwyn
rhag i hynny amharu ar ddeoriad y cywion gwyddau go iawn dan yr ŵydd<ref>‭Discovering the Folklore of Plants ‬(1996), Baker M</ref>. Ceid y
goel hon am flodau eraill y gwanwyn hefyd – megis [[briallen|briallu]] (fyddai’n amharu ar ddeoriad y cywion ieir), ‘cynffonnau ŵyn bach’ (fyddai’n amharu ar lwyddiant yr ŵyna, ayyb). Tebyg mai rhyfygu oeddech wrth ddod â’r blodau hyn i’r tŷ drwy gymeryd y gwanwyn yn rhy ganiataol.<ref name=Elias2006 />
 
==Cyfeiriadau==
132

golygiad