Anarchiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Diobaithyn (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 12:
Mae'r modd o gyrraedd y gymdeithas yn holl bwysig i anarchiaeth gan ei fod yn adlewyrchu egwyddorion yr ideoleg. Gwrthwyneba anarchiaeth gymdeithasol pleidiau gwleidyddol oherwydd ei natur gyfunol, hierarchaidd, yn enwedig felly y plaid canolig, blaengad Marcsiaeth-Leninaeth. Credir y dylai'r gweithwyr ei hun ymgymryd 'oll yn y chwyldro yn erbyn cyfalafiaeth - ac maent yn dal yr egwyddor yma yn gyson ar bob enghraifft o ormes, hynny bod rhaid i ddioddefwyr yr ormes eu hun dinistrio'r ormes. Os na, fe droiff ryddhawyr yn ormeswyr eu hun. Rhan hanfodol o arfer anarchwyr felly yw codi ymwybyddiaeth ymysg y poblogaeth o'u hachos a gweithredu trwy grwpiau gwirfoddol (yn aml dros dro) a weithiwyd mewn modd consensws, yn debyg i'r ffordd a rhagwelwyd cymdeithasau yn gweithredu mewn cymdeithas anarchol.
Oherwydd natur datganoledig a deinamig yr ideoleg, nid oes un ysgrifennwr gellid seilio syniadau anarchiaeth gymdeithasol arno. Pierre-Joseph Proudoun oedd un o'r ysgrifenwyr cyntaf, Ffrancwr cwestiynodd hawliau eiddo a ddywedodd yn enwog mai "lladrata yw eiddo" a wnaeth dylanwadu'n gryf ar sosialaeth. Yn y 19eg ganrif hefyd ceir y Slafiad Mikhail Bakunin a wnaeth dadlau'n danbaid efo [[Karl Marx]] gan achosi rhwygiad anarchiaeth o'r ''International'' cyntaf. Yn ystod cyfnod [[VladamirVladimir Lenin]] a'r Bolsiefigiaid yn Rwssia fe ysgrifennodd Peter Kropotkin, wnaeth dadlau yn groes i ddehongliadau o ddetholiadau naturiol y pryd yn ei lyfr ''Mutual Aid'' bod cydweithredu (yn hytrach na chystadlu) yn naturiol. Fe hefyd cefnogodd anarchiaeth o safbwynt amaethyddol, yn groes i cysyniadau diwydiannol sy'n prif ffrwd yn ideolegau comiwnyddol. Yn ddiweddarach, enghraifft o ysgrifennwr anarchiaeth gymdeithasol fodern yw [[Noam Chomsky]], ieithydd arbenigol a feirniadai bolisïau tramor yr [[Unol Daleithiau]].
 
Anarchwyr eraill enwog yw'r awdur Rwsiaidd [[Leo Tolstoy]] (anarchydd Cristnogol) a'r awdur a bardd Saesnig [[Oscar Wilde]].