Injan stêm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: be, be-x-old, et, fa, gd, nv, sh
Lao Ou (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 4:
Nid yw trin injan stêm yn debyg o gwbl i drin [[car]]. Os defnyddir injan stêm (neu unrhyw fath o beriant ager) rhaid gwneud yn siwr nad yw amhurdebau yn crynhoi yn y [[bwyler]]. Gall hyn ddigwydd oherwydd fod berwi dŵr i wneud stêm (sydd yn cael ei ddefnyddio yn y silindrau) yn gadael yr amhurdebau yn y bwyler.
 
Gellir carthu rhywfaint o'r amhurdebau trwy ollwng dŵr allan o'r bwyler trwy falfiau carthu ("blow down valves"). Hyd yn oed os gwneir hyn y mae'n rhaid, ar ôl defnyddio'r injan am hyn a hyn o amser (sy'n amrywio yn ôl gwaith yr injan ac ansawdd y dŵr a ddefnyddir ynddi), ddiffodd y tan a gwagu'r bwyler (gorau oll os ceiff y bwyler oeri'n araf a felly hepgor straen ynddo).
 
Wedi gwagio'r bwyler a (yn ddelfrydol) gadeal iddo oeri'n aradeg y mae'n rhaid agor caeadau neu blygiau a golchi tu mewn y bwyler yn drwyadl. Chistrellir dŵr o dan arbwysedd i wneud hyn, gan grafu gyda polion tenau a bachog i gael y baw oddi ar y platiau (dylid defnyddio metal meddal i wneud y polion hyn rhag treulio safleoedd y plygiau neu geuadau golchi). Trwy hyn, gellir arbed rhag i amhureddau casglu ar y platiau. Oni wneir hyn, gall y budredd casgliedig nadu gwres rhag fynd trwy'r plât i'r dŵr, gyda'r plât ei hun felly yn gor-gynhesu ac o'r herwydd yn colli'r nerth i gynnal arbwysedd y stêm.
 
Oherwydd ei bod hi'n ofynnol i olchi'r bwyler ar adegau cyfyngir yr amser y mae'r injian ar gael i wneud ei gwaith ond gellir gohirio'r amser rhwng golchiadau'r bwyler trwy drin y dwr gyda "ffisig" o ryw fath (er engraifft, y driniaeth ACFI a ddefnyddir yn Ffrainc).
 
Wrth baratoi injan stêm at ei gwaith, mae'n rhaid rhoi olew yng nghymalau'r gêr falf, olew silindr yn y pwmp neu irwr sydd yn gyrru olew i'r silindrau. Wrth gwrs rhaid hefyd sicrhau fod y mwgflwch a'r tanflwch yn lân a chynnau tân yn y tanflwch.
 
Wedi codi stêm a phrofi pethau fel y chwistrellyddion (''(injectors)'') sydd yn gyrru dŵr i'w bwyler rhaid paratoi ar gyfer tynnu trên. Wedi bachu'r injan i'r tren rhaid (os oes system frecio trwy'r tren) "creu'r brêc" naill ai trwy greu gofod rhannol yn y beipen tren (os defnyddir brec gofod) neu trwy cywasgu aer ym mheipen aer y tren (os defnyddir brêc aer cywasgedig Westinghouse).
 
Gwaith y taniwr ydyw trin y bwyler a gwethio o dan oruchwyliaeth y gyrrwr. Y nod yw rhofio glo mewn dull fel nad oes tyllau yn gadael i aer oer gymeryd ffordd hawdd trwy y tan a mynd ymlaen i oeri'r platiau yn lle helpu y glo i losgi. Dylid felly osgoi tyllau yng ngwely y tân ac hefyd osgoi rhofio gymaint o lo mewn un man fod y tân yn cael ei dagu.