Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cosofo"

Ychwanegwyd 50 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
B (robot yn newid: gag:Kosovo)
Yn ôl cytundeb Rambouillet (Mawrth 1999), buasai Kosovo wedi hunanlywodraeth er iddi aros yn rhan o Serbia. Buasai Serbia wedi cytuno i gynnal etholiadau rhydd ac i adeiladu llywodraeth a system cyfreithiol teg. Gwrthododd Serbia llofnodi'r cytundeb, gan arwain at ymosodiadau gan awyrennau NATO yn ystod Mawrth-Mehefin 1999. O 2001 ymlaen, mae UNMIK wedi bod yn trosglwyddo pwerau i sefydliadau hunanlywodraethol Kosovo. Cynhaliwyd etholiadau ar gyfer Cynulliad Kosovo ym mis Tachwedd 2001, a enillwyd gan Gynghrair Democrataidd Kosovo (LDK). Daeth [[Ibrahim Rugova]], oedd wedi arwain gwrthwynebiad i reolaeth Serbia yn ystod y 1990au, yn arlywydd, a Bajram Rexhepi (Plaid Ddemoncrataidd Kosovo) yn brif weinidog.
 
Yr arlywydd presennol yw [[Behgjet Pacolli]] sy'n Annibynnwr. Yr arlywydd o 2006 hyd 2010 oedd [[Fatmir Sejdiu]], arweinydd Cynghrair Democrataidd Kosovo, y blaid fwyaf o hyd. Bu farw ei flaenorydd, [[Ibrahim Rugova]], ym mis Ionawr [[2006]]. Y prif weinidog yw Agim Çeku, cyn-gadlywydd yn [[y Fyddin dros Ryddhâd Kosovo]] (KLA). Ar 17 Chwefror 2008, cyhoeddodd yr arlywydd a'r prif weinidog ill dau annibyniaeth lwyr oddiwrth Serbia yn dilyn pleidlais yn senedd Kosovo.
 
== Cyfeiriadau ==
2,934

golygiad