Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Mynyddfor"

Ychwanegwyd 32 beit ,  6 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
B (corr)
 
==Llên a Llenyddiaeth==
Mae'r canlynol wedi ei godi, gyda chaniatad, o lythyr personol<ref>JPM Jones (2011) llythyr personol</ref> gan y Dr J. Prys Morgan Jones (o hen deulu brodorion Y Waunfawr) at DB (awdur y bennod), ac a gyhoeddwyd yn ddiweddarach ym Mwletin [[Llên Natur]] rhifyn 45-46 (Tachwedd 2011)[http://www.llennatur.com/files/u1/Cylchgrawn4546.pdf]:
 
:''"...yn ymddangos fel horwth o eliffant a'i drwnc yn sipian o ddŵr Llyn Cwellyn. Yr Eliffant yw'r enw cyffredin a roddir arno, ond ar fapiau Arolwg Ordnans (SH 539 546)ceir Mynydd Mawr fel enw mwy syber a swyddogol. Serch hynny Mynyddfawr ac nid Mynydd Mawr yw'r enw parchus a roddir arno'n lleol – neu o leiaf dyna'r enw a arferid gynt gan drigolion yr ardal, mae dylanwad yr hyn a welir ar fapiau swyddogol yn gryf ar yr hyn sy'n cael ei ddweud. Pa dystiolaeth heblaw mympwy bersonol a allaf ei gynnig dros Mynyddfawr? Arferai fy nhad a anwyd ac a fagwyd yn y Waun-fawr gyfeirio at y mynydd fel Mynyddfawr (a'i ynganu M'nyddfawr, gyda'r acen ar yr -ydd-). Un arall a fagwyd yn y Waun ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd yr athronydd a'r ysgolhaig [[Hywel D Lewis]]; yng nghanol y chwedegau bu'n traddodi Darlithoedd Gifford ar Freedom and Alienation, ac yn ei ragymadrodd mae'n sôn am ei fachgendod yn yr ardal'':
Yn ei hunangofiant [[Y Lôn Wen]] (1960) mae [[Kate Roberts]] yn sgrifennu:
 
:'' "Ar lechwedd bryniau Moeltryfan a Moel Smatho* y gorwedd yr ardal, a thu hwnt i'r ddau fryn yma y mae Mynyddfawr (ynganer fel un gair a'r acen ar y sill olaf ond un), yr eliffant hwnnw o fynydd"''<ref>Kate Roberts, ''Y Lôn Wen''</ref>.
[*Moel Smytho ar y mapiau – enw arall i'w drafod efallai.]
 
Dywed JPMJ iddo weld o leiaf dair enghraifft yn ysgrifau [[T. H. Parry-Williams]]:
 
:'' "..a diffwys cwterog Mynyddfawr yn anesgor o sefydlog"''<ref>'"Drws-y-Coed'", yn ''[[Synfyfyrion]]'' (1937)</ref>
 
:''"yr olwg ehangfawr a geir dros wyneb y llyn ar lechweddy Planwydd a moel y Mynyddfawr a chlogwyn Castell Cidwm yr ochr draw." ''<ref>'"Y Tri Llyn'", yn ''[[O'r Pedwar Gwynt]]'' (1944)</ref>
 
:''"...neu Ddrws-y-coed-gwaith, fel y byddem ni'n galw'r pentref sydd rhwng troed y Garn a sodlau'r Mynyddfawr" ''<ref>'"Aur Drws-y-Coed'", yn ''[[Pensynnu]]'' (1966)</ref>
 
Mae Alun Llywelyn-Williams yn ei lyfr [[Crwydro Arfon]] (1959) yntau yn sgrifennu:
:'' "...a Chraig y Bera a'r Mynyddfawr ar y llaw arall" ''.
 
I fwydro a chymhlethu rhagor ar y mater mae [[George Borrow]] yn ei lyfr Wild Wales (1862), wrth sôn am ei daith o Gaernarfon i 'Beth Gelert', yn dweud:
o Gaernarfon i 'Beth Gelert', yn dweud:
 
:''a noble hill called Mount Eilio appeared before me to the north; an immense mountain called Pen Drws Coed layover against it on the south, just like a couchant elephant''
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
<references />
 
[[Categori:Betws Garmon]]