Gorsedd y Beirdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Lundgren8 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
llun gwell
Llinell 1:
[[Delwedd:Coroni Ceri Wyn Jones 2009.jpg|200|bawd|Yr Orsedd sy'n gyfrifol am drefniadau'r Cadeirio a'r Coroni. Yn y llun hwn: [[Ceri Wyn Jones]] yn cael ei goroni yn 2009.]]
[[Delwedd:Baneryrorsedd.jpg|150px|bawd|[[Baner yr Orsedd]].]]
Cymdeithas o [[Bardd|feirdd]], [[Llenyddiaeth Gymraeg|llenorion]], [[Cerddoriaeth Gymraeg|cerddorion]] a phobl nodedig eraill y [[Diwylliant Cymraeg|byd diwylliannol Cymraeg]] yw '''Gorsedd y Beirdd''' (enw llawn '''Gorsedd Beirdd Ynys Prydain'''), a sefydlwyd gan [[Iolo Morganwg]] yn [[Llundain]] yn [[1792]]. Mae tair carfan o aelodau yn perthyn i'r orsedd ac mae gan bob grŵp ei liw. Daw'r [[Archdderwydd]] bob amser o blith y rhai sy'n gwisgo gwyn. Gellir dod yn aelod drwy lwyddo mewn arholiad, cael eich dewis i ddod yn aelod neu drwy ennill y gadair, y goron neu'r Fedal Ryddiaith mewn Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal ag ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol mae'r Orsedd yn cyfarfod yng Nghylch yr Orsedd. Unwaith, cynhaliwyd cyfarfod o'r orsedd yn Llydaw.
 
Fe anrhydeddir bob blwyddyn Gymry amlwg sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru drwy eu gwahodd i ddod yn aelod o'r orsedd.
[[Delwedd:Baneryrorsedd.jpg|150px|bawd|chwith|[[Baner yr Orsedd]].]]
 
Cynhaliwyd [[Eisteddfod Caerfyrddin 1819]] yng ngwesty'r Llwyn Iorwg (neu'r ''Ivy Bush'') yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]], a phenderfynwyd cynnwys yr Orsedd fel rhan o'r defodau. Ers hynny mae'r Orsedd wedi dod yn fwyfwy cyfystyr â seremonïau'r [[Eisteddfod Genedlaethol]], yn arbennig seremonïau'r [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|Cadeirio]], y [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|Coroni]] a'r [[Fedal Ryddiaith]]. Mae ambell i Archdderwydd wedi defnyddio ei safle i wneud datganiadau gwleidyddol.