Anne of Green Gables: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 31:
* '''Diana Barry''': Ffrind mynwesol Anne sydd ag ysbryd caredig. Daw Anne a Diana yn ffrindiau gorau o'r eiliad y maent yn cwrdd. Hi yw'r unig ferch o'r un oedran ag Anne sy'n byw yn agos at Green Gables. Mae Anne yn edmygu Diana am fod yn bert gyda gwallt du a gwedd ddiddiffyg ac am ei gwarediad hawddgar. Nid oes gan Diana ddychymyg mor fyw ag Anne ond mae'n ffrind ffyddlon.
 
* '''Gilbert Blythe''': Cyd-ddisgybl golygus, craff, a ffraeth, ddwy flynedd yn hŷn nag Anne, sydd yn ffansio hi. Yn anymwybodol o sensitifrwydd Anne am ei gwallt coch, mae'n ceisio cael ei sylw trwy ddal ei chadish a'i galw'n "Moron" yn yr ystafell ddosbarth. Mewn dial mae hi'n torri llechen dros ei ben. Er gwaethaf ei ymdrechion i ymddiheuro, mae dicter ac ystyfnigrwydd Anne yn ei hatal rhag siarad ag ef am sawl blwyddyn. Erbyn diwedd y llyfr fodd bynnag, maent yn cymodi ac yn dod yn ffrindiau da
 
* '''Ruby Gillis''': Un arall o ffrindiau Anne. Gan fod ganddi nifer o chwiorydd hŷn gyda chariadon mae Ruby wrth ei bodd yn rhannu ei gwybodaeth am fechgyn gyda'i ffrindiau. Mae Ruby yn brydferth, gyda gwallt hir euraidd.