John Fletcher: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B manion
Llinell 1:
{{infobox person/Wikidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy }}
[[Dramodydd]] o [[Sais]] oedd '''John Fletcher''' ([[Rhagfyr]] [[1579]] – [[29 Awst]] [[1625]]) a flodeuai yn ystod [[Oes Iago]]. Mae'n nodedig am ei bartneriaeth lenyddol â [[Francis Beaumont]] a gynhyrchodd ryw ddeg o [[comedi|gomedïau]] a [[trasiedi|thrasiedïau]] yn y cyfnod 1607–13. Priodolir hefyd iddo gydweithio â [[William Shakespeare]] ar y ddrama hanes ''[[Henry VIII (drama)|Henry VIII]]'', y drasicomedidrasigomedi ''[[The Two Noble Kinsmen]]'', a'r gwaith diflanedig ''[[Cardenio]]''.
 
== Bywgraffiad ==
Cafodd John Fletcher ei fedyddio ar 20 Rhagfyr 1579 yn [[Rye, Dwyrain Sussex|Rye]], [[Sussex]]. Gweinidog y plwyf oedd ei dad, Richard Fletcher, a ddaliodd yn ddiweddarach swyddi [[caplan]] [[Elisabeth I, brenhines Lloegr|y Frenhines Elisabeth I]], Deon [[Peterborough]], ac esgob [[Bryste]], [[Caerwrangon]], a [[Llundain]]. Efe oedd y caplan a weinyddai dienyddiad [[Mari, brenhines yr Alban]], wedi iddo ei chyhuddo yn ystod ei threial. Tua 11 oed, cafodd John ei dderbyn yn "bensiynwr" gan [[Coleg Corpus Christi, Caergrawnt|Goleg Corpus Christi, Caergrawnt]]. Dwyflwydd yn ddiweddarach, cafodd ei benodi'n yn glerc Beiblaidd, hynny yw myfyriwr a ddewsiswydddewiswyd i ddarllen llithoedd o'r [[Beibl]] yng nghapel y coleg.<ref>{{dyf Britannica |url=https://www.britannica.com/biography/John-Fletcher |teitl=John Fletcher |dyddiadcyrchiad=11 Awst 2019 }}</ref>
 
Bu farw Richard Fletcher yn 1596, a ni wyddys unrhyw fanylion am fywyd John nes 1607, pryd ymddangosai yn awdur un o'r [[molawd]]au yn argraffiad [[llyfr pedwarplyg|pedwarplyg]] y gomedi ''Volpone'' gan [[Ben Jonson]]. Un o'r cymeradwywyr eraill a gyfranodd at y cwarto hwnnw oedd Francis Beaumont. Mae'n debyg i'r ddau ohonynt ddechrau cydweithio yr adeg honno ar gyfer cwmnïau actio'r King's Revels Children (1607–09) a'r King's Men (1609–13) yn theatrau'r Globe a'r Blackfriars yn Llundain. Wedi i Beaumont ymddeol o'r diwydiant theatr yn 1613, parhaodd Fletcher yn brif ddramodydd y King's Men hyd at ddiwedd ei oes. Cydweithiodd gyda [[Philip Massinger]], [[Nathan Field]], ac [[William Rowley]], yn ogystal ag ysgrifennu dramâu ar ben ei hunan. Credir iddo gydweithio â Shakespeare ar o leiaf tair drama – ''Henry VIII'', ''The Two Noble Kinsmen'', a ''Cardenio'' – yn y cyfnod 1613–14.