Boddi Tryweryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Ar 20 Rhagfyr 1955, penderfynodd Corfforaeth Dinas Lerpwl greu argae ddŵr yng Nghwm [[Tryweryn]] i gyflawni dŵr i drigolion Lerpwl. Roedd y gorfforaeth eisoes wedi gwneud hyn yn y 1880au yn nyffryn [[Llyn Efyrnwy|Efyrnwy]]. Cyflwynodd fesur seneddol (heb drafod gyda'r un awdurdod yng Nghymru) ar 1 Awst 1957. Yn y bleidlais, ni phleidleisiodd yr un aelod seneddol o Gymru o'i blaid.<ref>John Davies, ''Hanes Cymru'' (Argraffiad Penguin, 1992), tud. 640.</ref>
 
Roedd y mesur yn caniatáu [[gorchymyn prynu gorfodol|prynu'r tir yn orfodol]] a chafodd gefnogaeth gref oddi wrth [[Henry Brooke]], y Gweinidog dros Addysg a Llywodraeth Leol a Gweinidog Materion Cymreig, [[Harold Wilson]], [[Bessie Braddock]] a [[Barbara Castle]]. Ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn ac ymhlith ei gefnogwyr roedd yry ArglwyddesFonesig [[Megan Lloyd George]], [[T. I. Ellis]], Syr [[Ifan ab Owen Edwards]], [[Gwynfor Evans]] a'r aelod seneddol lleol [[Thomas William Jones|T. W. Jones]].
 
Mynegodd [[Plaid Cymru]] eu gwrthwynebiad i'r cynllun, ond ni chafwyd unrhyw weithredu uniongyrchol ganddynt. Oherwydd eu diffyg asgwrn cefn yn hyn o beth yr ymneilltuodd nifer o'u haelodau ifanc oddi wrthi gan sefydlu (yn ddiweddarach) fudiad newydd, sef [[Cymdeithas yr Iaith Gymraeg]].