Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dinas Emrys"

Ychwanegwyd 170 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
[[Delwedd:DinasEmrys1.JPG|300px|bawd|'''Dinas Emrys''' o [[Afon Glaslyn]]]]
Y mae '''Dinas Emrys''' yn safle hen [[Castell|gastell]] a [[bryngaer]] yn ne [[Eryri]], [[Gwynedd]]. Mae'n un o'r cynharaf o'r [[Cestyll y Tywysogion Cymreig|cestyll Cymreig. Saif i'r gorllewin o'r [[A498]] rhwng [[Capel Curig]] a [[Beddgelert]], tua milltir i'r gogledd-orllewin o'r pentref olaf.
 
==Lleoliad==
 
==Y tŵr==
Ar y bryn mae gweddillion tŵr cerrig hirsgawr i'w gweld. Credir ei fod wedi ei godi naill ai gan [[Llywelyn Fawr]] yn gynnar yn y [[13eg ganrif]] neu, yn fwy tebygol, gan [[Owain Gwynedd]] tua diwedd y [[12fed ganrif]]. Mae'n nodweddiadol o'r adeiladwaith castell a welir mewn llefydd eraill yn y gogledd yn yr un cyfnod, fel castell [[castell Deudraeth]]. Mae adfeilion mur amddiffynol i'w gweld hefyd.
 
==Y dreigiau==
Mae gwaith yr [[Archaeoleg|archaeolegwyr]] yn dangos fod amddiffynfa ar Ddinas Emrys yn y cyfnod [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeinig]] a'r [[Oesoedd Canol]] cynnar. Yr amddiffynfa honno yw lleoliad yr ymladd dan seiliau'r castell rhwng y ddwy ddraig, un yn goch a'r llall yn wyn, yn chwedl [[Cyfranc Lludd a Llefelys|Lludd a Llefelys]]. Mae [[Sieffre o Fynwy]] yn adrodd sut y bu i [[Myrddin|Fyrddin]] eu dangos i'r brenin [[Gwrtheyrn]] gan esbonio eu bod yn cynrychioli y [[Brythoniaid]] a'r [[Saeson]] yn eu gornest am deyrnas[[sofraniaeth]] [[Ynys Prydain]]. Am unwaith mae Sieffre, sy'n ffugiwr heb ei ail, yn dilyn traddodiad Cymreig dilys a geir am y tro cyntaf yng ngwaith [[Nennius]], yr ''[[Historia Brittonum]]'' (9fed ganrif). Mae Nennius a Sieffre yn dweud bod y dreigiau'n cwffio dan bwyll tanddaearol ac felly'n peri i'r castell roedd y brenin yn ceisio codi gwympo bob tro. Heddiw mae'r pwll yno o hyd.
 
==Llyfryddiaeth==
{{Cestyll Tywysogion Gwynedd}}
 
[[Categori:Cestyll Tywysogion Gwynedd]]
[[Categori:Cestyll Cymru]]
[[Categori:Bryngaerau Cymru]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru]]
[[Categori:Mytholeg Geltaidd]]