CIA: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 2:
[[Asiantaeth cudd-wybodaeth|Asiantaeth]] sydd yn gyfrifol am gasglu a dadansoddi [[cudd-wybodaeth]] dramor ar gyfer llywodraeth ffederal [[Unol Daleithiau America]] yw'r '''CIA''' ({{iaith-en|Central Intelligence Agency}}, yn Gymraeg '''Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog''').<ref>Mae'r BBC yn defnyddio'r enw llawn "Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog (America)" ar ddechrau erthygl neu eitem newyddion, ond ar ôl hynny yn defnyddio'r talfyriad adnabyddus "CIA". Gweler er enghraifft : [http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_3060000/newsid_3060900/3060999.stm].</ref> Cesglir gwybodaeth ledled y byd, yn bennaf drwy ddefnyddio [[cudd-wybodaeth ddynol]] (HUMINT), a chaiff ei phrosesu a'i dadansoddi gan arbenigwyr y CIA yn ei bencadlys yn [[Langley, Virginia]], ger y brifddinas [[Washington, D.C.]], ac mewn adrannau ar draws yr Unol Daleithiau a'r byd. Y CIA yw un o brif gyrff "y Gymuned Gudd-wybodaeth" Americanaidd, ac felly mae'n adrodd i'r Cyfarwyddwr dros Gudd-wybodaeth Genedlaethol ac yn canolbwytio yn bennaf ar ddarparu gwybodaeth i'r [[Arlywydd yr Unol Daleithiau|Arlywydd]] a'r Cabinet.
Nid yw'r CIA yn wasanaeth diogelwch gwladol megis yr [[FBI]], ac felly nid oes ganddo ddyletswydd i orfodi'r gyfraith nac i weithredu fel heddlu tu mewn i ffiniau'r Unol Daleithiau. Dim ond ychydig o hawl ac adnoddau sydd gan y CIA i gasglu cudd-wybodaeth yn fewnwladol. Er nad yw'n unigryw wrth arbenigo mewn HUMINT, mae'r CIA yn gweithio i gydlynu a rheoli'n genedlaethol gweithgareddau HUMINT yr holl Gymuned Gudd-wybodaeth. Y CIA yw'r unig asiantaeth a chanddi'r hawl gyfreithlon i weithredu ac arolygu [[gweithredu cudd|ymgyrchoedd cudd]] mewn gwledydd eraill ar orchymyn yr arlywydd.<ref>{{cite web |url=https://fas.org/blog/secrecy/2011/10/brennan_ctr_report.html |title=Reducing Overclassification Through Accountability |last=Aftergood |first=Steven |publisher=Federation of American Scientists Secrecy News |date=
Ymgododd y CIA o'r ''Office of Strategic Services'' (OSS), asiantaeth a gyd-drefnodd [[ysbïo]], [[propaganda]], ac ymgyrchoedd cudd eraill megis "tanseilio'r gelyn" ar gyfer [[Lluoedd Arfog yr Unol Daleithiau]] yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]]. Sefydlwyd y CIA gan Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 1947. Yn ystod [[y Rhyfel Oer]], y CIA oedd un o brif arfau'r Unol Daleithiau yn erbyn [[yr Undeb Sofietaidd]] a'r byd [[comiwnyddol]]. Mae tystiolaeth bendant o ran y CIA mewn sawl achos o ymyrraeth dramor, gan gynnwys disodli'r llywodraethau yn Iran (1953), Gwatemala (1954), a [[coup d'état Chile, 1973|Chile (1973)]], ac mewn cefnogi unbenaethau a llywodraethau gormesol, a masnachu cyffuriau a gwerthu arfau. Er cwymp yr Undeb Sofietaidd ar ddechrau'r 1990au, mae'r CIA wedi ehangu ei swyddogaeth yn fwyfwy ers diwedd y Rhyfel Oer, gan gynnwys ymgyrchoedd [[parafilwrol]] cudd.<ref name="wp20130829">{{cite news |url=http://www.washingtonpost.com/world/national-security/black-budget-summary-details-us-spy-networks-successes-failures-and-objectives/2013/08/29/7e57bb78-10ab-11e3-8cdd-bcdc09410972_story.html |date=
Ar droad y ganrif, symudodd canolbwynt y cyrff diogelwch cenedlaethol i [[terfysgaeth|derfysgaeth]], ac hynny'n llwyr yn sgil [[ymosodiadau 11 Medi, 2001|ymosodiadau 9/11]]. Gwelid yr ymosodiad hwnnw yn fethiant cudd-wybodaeth gan yr holl Gymuned Gudd-wybodaeth, a'r CIA yn enwedig. Gwnaed ymdrechion i wella arferion yr asiantaethau wrth gydlynu cudd-wybodaeth, a rhoddwyd rhagor o gyllideb ac adnoddau iddynt ym maes [[gwrth-derfysgaeth]]. Cyn Deddf Diwygo Cudd-wybodaeth ac Atal Terfysgaeth 2004, bu Cyfarwyddwr y CIA ar y cyd yn bennaeth ar y Gymuned Gudd-wybodaeth; bellach, mae'r Cyfarwyddwr dros Gudd-wybodaeth Genedlaethol (DNI) yn uwch na'r CIA yn y gadwyn awdurdod. Er gwaethaf i'r corff drosglwyddo peth grym i'r DNI, mae'r CIA wedi tyfu ers 9/11. Yn ôl ''[[The Washington Post]]'', y CIA oedd piau'r gyllideb uchaf o holl asiantaethau'r Gymuned Gudd-wybodaeth yn y flwyddyn 2010.<ref name="wp20130829"/><ref name=chapter13>{{cite web|url=http://www.gpo.gov/fdsys/pkg/GPO-INTELLIGENCE/content-detail.html|title=Preparing for the 21st Century: An Appraisal of U.S. Intelligence. Chapter 13 - The Cost of Intelligence|author=Commission on the Roles and Capabilities of the United States Intelligence Community}}</ref> Yn ddiweddar mae un o'i adrannau mwyaf, yr ''Information Operations Center'' (IOC), wedi dechrau canolbwyntio ar [[seiber-ryfela]] yn fwy na therfysgaeth fel bygythiad i UDA.<ref name=231cyberops>{{cite news|url=http://www.washingtonpost.com/world/national-security/us-spy-agencies-mounted-231-offensive-cyber-operations-in-2011-documents-show/2013/08/30/d090a6ae-119e-11e3-b4cb-fd7ce041d814_story_3.html|title=U.S. spy agencies mounted 231 offensive cyber-operations in 2011, documents show|author1=Barton Gellman |author2=Ellen Nakashima |publisher=''[[The Washington Post]]''|date=
== Gweler hefyd ==
Llinell 15:
== Darllen pellach ==
* Rhodri Jeffreys-Jones
* John Prados
* Tim Weiner
== Dolen allanol ==
|