Damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B nodyn Cysylltiadau rhyngwladol
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 17:
 
=== Neo-realaeth ===
{{prif|Neo-realaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)}}
Sail yr hyn a elwir yn neo-reolaeth neu realaeth adeileddol yw ''Theory of International Politics'' (1979) gan [[Kenneth Waltz]]. Ymwrthodai â'r traddodiad realaidd clasurol gan hepgor y cyfeiriadau at [[natur ddynol]] a'r tybiaethau [[metaffiseg]]ol sydd yn nodweddu gwaith Morgenthau. Ceisiodd Waltz ail-osod y ddamcaniaeth realaidd ar sylfaen wyddonol, ac wrth graidd hon oedd damcaniaeth systemig yn hytrach na [[rhydwythiaeth]], gan ddadlau taw [[cysylltiadau rhyngwladol#Anllywodraeth|anllywodraeth]] y system ryngwladol sydd yn arwain at ddobarthiad grym. Testun sylw neo-reolaeth felly yw'r holl system o gysylltiadau rhyngwladol, ac nid "unedau" o gategoreiddio (er enghraifft, gwladwriaethau awtocrataidd a gwladwriaethau democrataidd).