Damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad cod 2017
→‎Rhyddfrydiaeth: ychwanegu esboniad cryno o neo-ryddfrydiaeth
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 30:
===Neo-ryddfrydiaeth===
{{prif|Neo-ryddfrydiaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)}}
Ffurfiwyd neo-ryddfrydiaeth neu sefydliadaeth neo-ryddfrydol yn y 1980au mewn ymateb i neo-realaeth. Gelwir y ddadl academaidd rhwng y neo-ryddfrydwyr a'r neo-realwyr yn y ddadl neo-neo, a serch hynny mae consensws ynglŷn â nifer o agweddau'r ddwy ddamcaniaeth hon ac mae ysgolheigion yn aml yn defnyddio'r naill a'r llall i ddehongli gwahanol bynciau. Er iddi ymsefydlu yn groes i neo-realaeth, yn bennaf drwy anghytuno â damcaniaeth Kenneth Waltz ynghylch cydweithio dan anllywodraeth yn y system ryngwladol, mabwysiadwyd dulliau a nifer o dybiaethau Waltz gan y neo-ryddfrydwyr. Dywed yn aml bod neo-ryddfrydiaeth yn canolbwyntio ar [[economi wleidyddol ryngwladol]], [[gwleidyddiaeth amgylcheddol fyd-eang]], ac [[hawliau dynol]], tra bo neo-realaeth yn ymdrin yn bennaf â [[diogelwch cenedlaethol]] a [[diogelwch rhyngwladol|rhyngwladol]] a materion milwrol.
 
== Yr Ysgol Seisnig ==