Y Tadau Methodistaidd (llyfr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
 
=== Cyfrol I ===
Mae'r gyfrol gyntaf yn agor gyda phennod am sefyllfa foesol [[Cymru]] adeg cychwyn Methodistiaeth. Mae'r ail bennod yn rhoi bywgraffiad o [[Griffith Jones|Griffith Jones, Llanddowror]] a'i waith pwysig gyda'r ysgolion cylchynol ac argraffu [[Y Beibl|Beiblau]] a llyfrau crefyddol fforddiadwy i'r werin. Mae'r drydedd bennod yn sôn am Y Diwygiad Methodistaidd yn [[Lloegr]], gan nodi mae nid rhywbeth a ddeilliodd yn uniongyrchol o Loegr yw Methodistiaeth Cymru. Mae'r bennod yn nodi bod [[Howel Harris|Howell Harris]] a [[Daniel Rowland|Daniel Rowland, Llangeitho]] wedi bod yn efengylu yng Nghymru dwy flynedd cyn sefydlu'r ''Clwb Sanctaidd'' yn [[Prifysgol Rhydychen|Rhydychen]] gan [[Charles Wesley]], [[George WhifefieldWhitefield|George Whitefìeld]] a'r Cymro [[John Gambold]]. <ref>{{Cite book|title=Y tadau methodistaidd : eu llafur a'u llwyddiant gyda gwaith yr Efengyl yn Nghymru, Trefydd Lloegr, America ac Awstralia : ynghyd a nifer mawr o ddarluniau o bersonau a lleoedd nodedig|url=http://archive.org/details/ytadaumethodista01joneuoft|publisher=Abertawe : L. Evans|date=1895|others=Robarts - University of Toronto|first=John Morgan|last=Jones|first2=William|last2=Morgan|year=|isbn=|location=Copi o'r gyfrol gyntaf ar Internet Archive|pages=}}</ref>
 
Wedi pennod yn rhoi bywgraffiad Daniel Rowlands ddaw nifer o benodau yn ymdrin â bywyd a gwaith Howell Harris. Mae'r penodau hyn yn dibynnu yn drwm ar ddyddiaduron Harris a chanfuwyd gan John Morgan Jones yng [[Coleg Trefeca|Ngholeg Trefeca]] wedi iddynt fod ar goll neu'n anghofiedig am ddegawdau. Yng nghanol y penodau am Harris ceir hefyd penodau yn trafod twf yr achos yn ystod ei wyth mlynedd gyntaf, sefydlu'r Gymdeithasfa (corff rheoli) a phennod yn trafod ''cynghorwyr'' cynnar yr enwad: <ref>Nodyn: Pregethwyr lleyg oedd y cynghorwyr, ond gan ei fod yn anghyfreithiol i ddyn heb ei ordeinio'n weinidog pregethu, rhoi "gair o gyngor" am grefydd oedd y cynghorwyr</ref>