Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Edward Tegla Davies"

Ychwanegwyd 36 beit ,  2 flynedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
No edit summary
BNo edit summary
| dyddiadmarw = {{dyddiad marw ac oedran|df=y|1967|10|9|1880|5|31}}
| manmarw =
| galwedigaeth = [[Nofelydd]], [[bardd]] [[gweinidogGweinidog yr Efengyl]]
| cenedligrwydd =
| ethnigrwydd =
 
== Bywyd ==
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol, sef Llandegla, ger [[Rhuthun]] yn 1880, ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a byd natur ei ardal effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i [[Coleg Didsbury|Goleg Didsbury]], [[Manceinion]] ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro ac yna tair mlynedd fel athro cynorthwyol yn Ysgol [[Bwlchgwyn]], ei hen ysgol, cyn gwasanaethu fel [[Gweinidog yr Efengyl|gweinidog]] [[Eglwys Fethodistaidd Cymru|Wesla]] am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd yn arferol i weinidogion Wesla, ac roedd yn [[Pregethwyr|bregethwr]] dylanwadol. Roedd yn sgwennu'n gyson i'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]] ac yn olygydd ar ''[[Y Winllan]]'' ([[1920]]-[[1928]]), cylchgrawn y Wesleaid, a'r ''[[Yr Efrydydd|Efrydydd]]'' ([[1931]]-[[1935]]). Golygodd ''[[Cyfres Pobun|Gyfres Pobun]]'' am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i [[Thomas Gwynn Jones|T. Gwynn Jones]] ac [[Ifor Williams]].
 
==Anrhydeddau==