Dylan Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 39:
Ganwyd Dylan Thomas ym 5 Cwmdonkin Drive<ref>[http://www.5cwmdonkindrive.com 5 Cwmdonkin Drive]</ref>, yn ardal yr Uplands o Abertawe, [[Cymru]] ar [[27 Hydref]] [[1914]]. Roedd yr Uplands yn un o ardaloedd mwyaf llewyrchus y ddinas a gadwodd Thomas i ffwrdd o ardaloedd diwydiannol y ddinas. Roedd ei dad, David John Thomas, yn dysgu llenyddiaeth Saesneg yn yr ysgol ramadeg leol. Roedd ei fam, Florence Hannah Thomas (gynt Williams), yn wniadwraig a anwyd yn Abertawe. Roedd gan Dylan chwaer, Nancy, a oedd wyth mlynedd yn hŷn nag ef. Magwyd y plant i siarad Saesneg yn unig, er bod eu rhieni yn medru'r [[Cymraeg|Gymraeg]].
 
Ynganer ei enw fel "Dyl-an" yn y Gymraeg ac ar ddechrau ei yrfa cafodd ei enw ei ynganu yn y ffordd Gymreig. Fodd bynnag, hoffai Dylan yr ynganiad Seisnig "Dill-an".<ref Name="Reckless1">[http://www.newyorker.com/archive/2004/07/05/040705crbo_books "Reckless Endangerment: The making and unmaking of Dylan Thomas." Erthygl ''New Yorker'' gan Adam Kirsch. t1 5 Gorffennaf 2004]. Adalwyd ar 2010-09-11</ref> Roedd enw canol Dylan yn deyrnged i'w hen ewythr, y [[Gweinidog yr Efengyl|Gweinidog]] Undodaidd William Thomas a chanddo'r enw barddol [[Gwilym Marles]].
 
Treuliodd y mwyafrif o'i blentyndod yn Abertawe, gyda theithiau rheolaidd yn yr haf i ymweld â'i fodryb Ann Jones ar ochr ei fam pan oeddent yn denantiaid ar fferm laeth Fern Hill, [[Llangain]], Sir Gaerfyrddin<ref>''Dylan Remembered 1914-34 vol 1'' gan D N Thomas, Seren 2003</ref> (sy'n adeilad rhestredig<ref>{{dyf gwe |teitl=British Listed Buildings, Fernhill, Llangain |url=http://www.britishlistedbuildings.co.uk/wa-9718-fern-hill-llangynog |cyhoeddwr=www.britishlistedbuildings.co.uk |dyddiadcyrchiad=2014-05-11}}</ref>) a pherthnasau eraill yng nghyffiniau [[Llansteffan]].<ref>{{dyf gwe |teitl=Dylan Thomas |url=http://www.llansteffan.com/dylan-thomas/ |cyhoeddwr=[http://www.llansteffan.com] |dyddiadcyrchiad=2014-05-11}}</ref> Cyferbynnai'r teithiau gwledig hyn gyda'i fywyd yn y dref, gan ysbrydoli llawer o'i weithiau, yn benodol ei straeon byrion, traethodau radio a'i gerdd [[Fern Hill]]. Roedd Thomas yn blentyn a ddioddefodd lawer o salwch ac fe'i ystyriwyd yn rhy wanllyd i frwydro yn yr [[Ail Ryfel Byd]]. Gwasanaethodd y rhyfel drwy ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y llywodraeth. Dioddefodd o [[llid y bronci|lid y bronci]] ac [[asma]] er ei fod yn chwarae ar ei salwch o dro i dro.