Edward John Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Ganwyd Edward John Hughes (EJH) ar 18 Mehefin 1888 yn fab i William John Hughes a Mary Ann Martin, Shop Goch, [[Trefor]]. EJH oedd yr hynaf o bump o blant, tri bachgen a dwy ferch. Roedd eu tad yn frodor o Lanaelhaearn, a'u mam yn hanu o Bitterley, ger Llwydlo. Symudodd y teulu yn ddiweddarach i Manchester House, lle y bu chwaer EJH, Annie Griffith, yn cadw siop 'sgidiau tan y 1980au.
 
Roedd yr Hughesiaid yn weithgar yn eu cymuned a hefyd yn deulu cerddorol. Crydd oedd William John Hughes (WJH), tad EJH, o ran galwedigaeth, ond yr oedd yn astudio cerddoriaeth yn ei amser rhydd. Yn 1875, ac yntau'n 20 oed, yn dilyn cyngerdd yn Rhoshirwaun i godi arian i'w gynorthwyo, treuliodd WJH dymor yn Aberystwyth yn astudio cerddoriaeth gyda Dr [[Joseph Parry]].<ref>''Herald Gymraeg'' 5 Mawrth 1875</ref> Yn ei dro daeth WJH yn gyfansoddwr ac yn organydd medrus, yn chwarae'r organ yn 1900 ar achlysur agor capel newydd Bethania yn Nhrefor, lle y bu'n organydd am nifer o flynyddoedd. Roedd gwreiddiau cerddorol EJH, felly, yn gadarn, ac ymddiddorai yntau, fel ei dad, mewn cerddoriaeth ers yn ifanc.
 
Wedi gadael yr ysgol yn 16 oed, dechreuodd EJH weithio fel gwneuthurwr setiau yn chwarel wenithfaen Trefor. Yn ei oriau hamdden byddai'n astudio cerddoriaeth, a bob bore, cyn cychwyn i fyny'r mynydd i'r chwarel, byddai'n ymarfer am awr ar biano efo pedalau arbennig, fel rhai organ, arni. Mae sôn amdano'n rhwymo cadachau am ei ddwylo wrth gerdded i'r gwaith er mwyn gwarchod ei fysedd wrth iddo weithio. Yn yr un flwyddyn ag y dechreuodd weithio yn y chwarel, bu'n llwyddiannus mewn arholiadau sol-ffa ac, yn ôl Yr Herald Gymraeg,<ref>''Herald Gymraeg'' 28 Mai 1907 td.8</ref> roedd o hefyd yn dysgu plant iau. Ym 1904 hefyd cafodd ei ethol yn ysgrifennydd Undeb y Bedyddwyr yn lleol am y flwyddyn ganlynol, ac yn ddiweddarach, ymunodd â'i dad i ddod yn gyfeilydd yng nghapel Bethania, Trefor.