Marlene Streeruwitz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cay bwlch a chyfieithu cyfeiriadaeth
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Awdur|Awdures]] o [[Awstria]] yw '''Marlene Streeruwitz''' (ganwyd [[28 Mehefin]] [[1950]]) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel [[awdur]], [[actor]], [[cyfarwyddwr theatr]] ac awdur.
 
Ganwyd Marlene Streeruwitz i deulu cefnog yn [[Awstria]], yn Baden bei Wien. Roedd ei thad yn wleidydd ac yn ddiweddarach daeth yn faer y dref. Dechreuodd ei diddordeb mewn llenydda yn dilyn ei hysgariad, er na chyhoeddodd unrhywbeth am rhyw 14 mlynedd arall. Gwnaeth enw iddi ei hun fel awdur y ddrama radio Kaiserklamm. Und. Kirchenwirt (1989) ac yn arbennig felly yn dilyn llwyddiant y dramâu ''Waikiki-Beach'' a ''Sloane Square'' gafodd eu llwyfannu yn [[Cologne]]. Derbyniodd sawl gwobr am ei gwaith, yn cynnwys yr ''Hermann-Hesse-Preis'' (2001), ''Literaturpreis der Stadt Wien'' (Gwobr Llên gan Ddinas Fiena, 2001) a'r ''Droste-Preis'' (2009).<ref name=landesmuseum>{{cite web|url=http://geschichte.landesmuseum.net/index.asp?contenturl=http://geschichte.landesmuseum.net/personen/personendetail.asp___id=449204275|title=Marlene Streeruwitz|publisher=Niederösterreich|accessdate=9 MarchMawrth 2015 |language=mewn Almaeneg}}</ref><ref>{{cite web|url=http://www.belletristik-couch.de/marlene-streeruwitz.html|title=Marlene Streeruwitz|publisher=Belletristik-Couch.de|accessdate=10 Mawrth 2015 |language=mewn Almaeneg}}</ref>
 
Astudiodd y Gyfraith a Ieithoedd Slafaig ym [[Prifysgol Fienna|Mhrifysgol Fienna]], ond rhoddodd y gorau i'w hastudiaethau er mwyn priodi a magu teulu. Yn ogystal â bod yn ddramodydd llwyddiannus, y mae hi hefyd yn adnabyddus fel [[bardd]], ac am ddarllen ei gweithiau ei hun megis ''Sein. Und Schein. Und Erscheinen'' (1997) a ''Können. Mögen. Dürfen. Sollen. Wollen. Müssen. Lassen'' (1998) yn Tübingen a [[Frankfurt]]. Cyhoeddodd hefyd [[nofelau]] a [[straeon byrion]].