Robert Williams Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | image = Haf a Cherddi Eraill, Yr (llyfr).jpg | suppressfields= dinasyddiaeth | nationality = {{banergwlad|Cymru}} | dateformat = dmy}}
 
Roedd '''Robert Williams Parry''' ([[6 Mawrth]] [[1884]] - [[4 Ionawr]] [[1956]]), a adwaenir fel '''R. Williams Parry''' yn un o feirdd mwyaf nodedig [[Cymru]] yn yr [[20g]].
 
==Magwraeth, coleg a dechrau dysgu==
Ganed R. Williams Parry yn [[Talysarn|Nhalysarn]], yn Nyffryn Nantlle. Roedd yn gefnder i [[T. H. Parry-Williams]] a [[Thomas Parry]]. Cafodd ei addysg yn Ysgolion Sir Gaernarfon a [[Pen-y-groes|Phen-y-groes]]. Bu'n astudio yng [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]] am ddwy flynedd, ond gadawodd heb raddio, ac aeth yn athro. Yn 1907 aeth i [[Prifysgol Cymru, Bangor|Goleg Prifysgol Cymru, Bangor]] i orffen ei astudiaethau a graddiodd yn 1908. Ar ôl y Coleg dechreuodd ei yrfa fel athro yn Ysgol Sir Brynrefail o 1908 hyd 1910.<ref>Y Parch John Pritchard (1940); Llyfr Hanes yr Ysgol Sir, Brynrefail, Arfon (cyhoeddwr: Llywodraethwyr yr ysgol; argraffwyr: Swyddfa’r Goleuad.)</ref> Wedyn bu'n brifathro Ysgol y Sarnau (ger [[Cefnddwysarn]]) am tua naw mis rhwng 1912 ac 1913<ref>Elfyn Pritchard, cyn brifathro Ysgol Fridd y Llyn (ar lafar wrth Gareth Pritchard)</ref> cyn derbyn swydd fel athro yn [[Sarn Mellteyrn|Sarn]], Llŷn. Yn 1915 symudodd i Ysgol Sir [[y Barri]].
 
Oherwydd gorfodaeth filwrol, ymunodd â'r fyddin yn Nachweddd 1916 am gyfnod o ddwy flynedd. Dychwelodd i'r Barri ar ôl y rhyfel. Yn fuan wedyn cafodd le mewn ysgol yn [[Oakley Park]], yn Sir Drefaldwyn.
 
==Problemau Prifysgol==
Penodwyd R. Williams Parry yn ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg ym Mangor yn Rhagfyr [[1921]]. Darlithiai ar [[Llydaweg|Lydaweg]], a [[Cernyweg|Chernyweg]] ac hefyd ar Ramadeg Cymraeg. Yn 1912 cafodd M.A. am ysgrifennu traethawd ar ''Gysylltiadau'r Gymraeg a'r Llydaweg.'' <ref>Pymtheg o Wŷr Llên yr Ugeinfed Ganrif. Ben Rees.Cwmni Cyhoeddiadau Modern 1972</ref> Yno roedd Syr John Morris-Jones yn Bennaeth ar y Coleg ac yn ei gynorthwyo roedd yr Athro [[Ifor Williams]]. Roedd Willams Parry yn hapus yno o 1922 hyd tua 1928 yn darlithio'n bennaf i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn yr Adran Gymraeg. Roedd hefyd yn cynnal dosbarthiadau nos. Teimlai erbyn Hydref 1928 fel lledu ei adenydd. Roedd am ddarlitho i'r dosbarth Anrhydedd ar gelfyddyd barddonaeth yn gyffredinol, ond teimlai Ifor Williams nad oedd y cyrsiau roedd yn ei gynnig yn ddigon academaidd eu natur. Bu'n frwydr chwerw a barhaodd am bymtheg mlynedd.<ref>Alan Llwyd, ''Barn'' 601 Chwef(Chwefror 2013 Alan Llwyd)</ref>
 
==Ei waith==