Pryf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 92:
 
Bu sawl ymdrech dros y blynyddoedd i gasglu ac i safoni enwau'r holl deuluoedd a rhywogaethau trychfilod, weithiau yn systematig fesul grwp, dro arall fesul rhywogaeth unigol mewn ymateb i geisiadau brys gan gyfieithwyr. Cynhwysa'r rhestrau a wnaed yn systematig grwpiau fel y [[gwyfyn|gwyfynod]], y [[gloyn byw|glöynnod byw]] y [[gweision neidr]] a'r [[buwch goch gota|buchod cwta]].</b>
Gwnaethpwyd hefyd y gwaith casglu paratoadol ar gyfer grwpiau eraill megis y gwenyn a'u tebyg er mwyn bod mor driw a phosib i'r termau llafar sydd ar gael pan yn eu safoni. Dyma un enghraifft o'r gwaith paratoadol hwn gan Twm Elias ac O.T. Jones:<ref>Dosbarthiad Enwau Trychfilod yn ôl arbrawf Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Cylch 1981 (Adroddiad gan Twm Elias ac O. T. Jones).</ref>
 
::'''Dosbarthiad Enwau Trychfilod yn ôl arbrawf Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Cylch 1981'''
::Adroddiad gan Twm Elias ac O. T. Jones.
 
::Ar faes [[Eisteddfod Genedlaethol]] Maldwyn a'r Cylch, 1981, cynhaliwyd arbrawf gan aelodau o'r Gymdeithas i geisio gweld pa enw a ddefnyddir ar bedair rhywogaeth adnabyddus o drychfilod yng ngwahanol ardaloedd Cymru. Dewiswyd y wenynen (‘’Apis mellifera’’; S. ‘’Honey Bee’’), y cacwn (rhu. ‘’Bombus’’; ‘’S. Bumble Bee’’), Gwenyn Meirch (rhu. ‘’Vespula’’; S. ‘’wasp’’) a Robin y Gyrrwr (Teuluoedd ‘’Oestridae’’ a ‘’Gasterophilidae’’; S. ‘’Warble Fly’’ neu ‘’Gad Fly’’, ‘’Horse Bot Fly’’) fel rhywogaethau i’w hastudio.</br>