Pryf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 103:
::Drwy’r gogledd yn gyffredinol, y gair a ddefnyddir yw 'cacwn' ac fe'i ceir rnewn rhannau o'r de hefyd, sef gogledd [[Penfro ]] a [[dyffryn Teifi]]. Ond fe geir amrywiaethau diddorol yma yn ogystal, sef 'cachgi bwm' neu ‘caci bwm' yn [[Dyffryn Tywi|nyffryn Tywi]] ac yng [[Ceredigion|Ngheredigion]], tra bod 'picynen fawr' a 'bili bomen' i'w cael yn amlach yng Nghwm Tawe, Cawsom hefyd yr amrywiaethau canlynol ond yn aml heb enghraifft o'r fath gan berson arall 'cacynen fawr' ([[Dinas Mawddwy]]: 'cacwn mwnci, ([[Sir Fôn]]), ‘cacwn meirch' ([[Bethesda]]), 'bwmsen' ([[Llanddarog]]), 'bombi' ([[Pontiets]]) a ‘bombili' ([[Brynaman).
 
::c) Gwenynen Feirch (ll. Gwenyn Meirch) Fel y gwelir oddiwrth y mapiau, ceir dosbarthiad diddorol lawn i'r enw yma o ogledd-orllewin Cymru (Môn, Arfon a rhan o Feirion) ar hyd yr arfordir i lawr i ddyffryn Teifi a gogledd Sir Benfro. 'cacwn' a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o [[Clwyd|Glwyd]] ac hefyd i lawr i [[Dyffryn Dyfi|Ddyfi]] hyd at y môr. Yng nghanolbarth Ceredigion ceir yr enw 'piffci' (ll. piffcwn) ac yno'n unig hyd y gwelwn ni y gair mwyaf cyffredin am y trychfilyn yma yn [[Sir Gaerfyrddin]] a dwyrain [[Morgannwg]] yw 'picwnen' (ll. picwn). Ceir hefyd ‘picacwnen' yn [[Llanelli]] a [[Burry Port]] a ‘picagwnen’ yn Ystalyfera a Llangyfelach. Yn y gogledd fe gawsom hefyd amrywiaethau ar y gair 'cacwn' - 'cacwn brith ( rhwng dyffrynnoedd Clwyd a [[Dyffryn Conwy|Chonwy]]), 'cacwn meirch, ([[Tremadog]] a [[Penygroes|Phenygroes]]), 'cacwn geifr' (neu ar lafar 'Cacwn Gifir') ([[Dolgellau]], [[Ganllwyd]], [[Brithdir]], [[Rhydymain]], [[Y Bala]] ac [[Aberhosan]].ym [[Maldwyn]]), 'cacwn bach' ([[Llanfyllin]] a [[Dyffryn Tanat]]) a ‘Cacwn y Cythraul' ([[Penuwch]] yng [[Ngheredigion]]). <br>
::(ch) Robin y Gyrrwr
::Mae amryw o rywogaethau a elwlr yn 'Robin y Gyrrwr' neu ei amrywiaethau. Eu nodwedd bwysicaf yw eu bod oll yn gwneud swn uchel tra’n hedfan ac yn achosi i wartheg a cheffylau i ddychryn a rhedeg - 'ystodi' yw'r enw a roddir ar yr ymateb hwn yn Sir Fôn. Trwy ogledd Cymru ac ar arfordir gogledd Penfro y gair a ddefnyddir yw 'Robin y Gyrrwr'. Ym Mhont Senni a Threcastell yn [[Sir Frycheiniog]] ceir yr enw 'Robin Dreifar’. Yn Sir Gaerfyrddin y gair 'Robin' yn unig a ddefnyddir tra yng [[Cwm Tawe|Nghwm Tawe]] fe galedir y ‘b' yn y gair i 'ropin’. Y gair traddodiadol am gynrhon 'robin y gyrrwr' a geir yn magu o dan groen cefn gwartheg yw 'gweryd’, ac fe geisiwyd yn y blynyddoedd diwethaf gan y Weinyddiaeth Amaeth ac eraill, i gael pobol i ddefnyddio ‘pryfed gweryd’ am y pryfed aeddfed a ddatblyga o'r cynrhon sy'n magu mewn gwartheg. Fel y gwelir oddiwrth y mapiau, mae'r enw yma yn cael ei ddefnyddio mewn rhannau o'r gogledd.</br>
::Mewn hen lyfrau o'r ganrif ddiwethaf ceir enwau fel 'cacwn y cwn’ neu ‘cacwn y meirch’, a 'chacwn yr ych' am robin y gyrrwr ond ni chafwyd ond un neu ddau o enghreifftiau o'r gair 'cacwn' yn y cyd-destun yma. Fe allem ddamcaniaethu mai yn y gorffennol 'cacwn yr ych’, 'cacwn geifr’ a 'chacwn y meirch' a ddefnyddid am y rhywogaethau hynny a ymosodai ar wartheg, geifr a cheffylau ond bod 'robin y gyrrwr' yn cael el arfer yn ddiweddarach am yr holl rywogaethau. Efallai fod cysylltiad hefyd rhwng yr enwau hyn a'r defnydd o 'wenyn meirch' yng Ngwynedd, yr enw hwn wedi ei drosglwyddo bellach, fodd bynnag, i gyfateb a'r Saesneg ‘’wasp'’.