Pryf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 92:
 
Bu sawl ymdrech dros y blynyddoedd i gasglu ac i safoni enwau'r holl deuluoedd a rhywogaethau trychfilod, weithiau yn systematig fesul grwp, dro arall fesul rhywogaeth unigol mewn ymateb i geisiadau brys gan gyfieithwyr. Cynhwysa'r rhestrau a wnaed yn systematig grwpiau fel y [[gwyfyn|gwyfynod]], y [[gloyn byw|glöynnod byw]] y [[gweision neidr]] a'r [[buwch goch gota|buchod cwta]].</b>
 
 
Gwnaethpwyd hefyd y gwaith casglu paratoadol ar gyfer grwpiau eraill megis y gwenyn a'u tebyg er mwyn bod mor driw a phosib i'r termau llafar sydd ar gael pan yn eu safoni. Dyma un enghraifft o'r gwaith paratoadol hwn gan Twm Elias ac O.T. Jones<ref>Dosbarthiad Enwau Trychfilod yn ôl arbrawf Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Cylch 1981 (Adroddiad gan Twm Elias ac O. T. Jones).</ref>
 
 
 
::Ar faes [[Eisteddfod Genedlaethol]] Maldwyn a'r Cylch, 1981, cynhaliwyd arbrawf gan aelodau o'r Gymdeithas i geisio gweld pa enw a ddefnyddir ar bedair rhywogaeth adnabyddus o drychfilod yng ngwahanol ardaloedd Cymru. Dewiswyd y wenynen (‘’Apis mellifera’’; S. ‘’Honey Bee’’), y cacwn (rhu. ‘’Bombus’’; ‘’S. Bumble Bee’’), Gwenyn Meirch (rhu. ‘’Vespula’’; S. ‘’wasp’’) a Robin y Gyrrwr (Teuluoedd ‘’Oestridae’’ a ‘’Gasterophilidae’’; S. ‘’Warble Fly’’ neu ‘’Gad Fly’’, ‘’Horse Bot Fly’’) fel rhywogaethau i’w hastudio.</br>
 
 
 
::Ym mhabell Gwasg Dwyfor y cynhaliwyd yr arbrawf. Yno gosodwyd lluniau ardderchog Ann Garrod o'r bedair rhywogaeth gydag enghreifftiau o bob un wedi ei binio allan; hefyd map o Gymru ar gyfer bob un. Gwahoddwyd ymwelwyr i'r babell i roddi eu henwau arbennig hwy ar y pedair rhywogaeth ac i leoli symbol a gyfatebai i'r enwau hynny ar eu broydd genedigol ar y mapiau. Fe welir y canlyniadau a gafwyd ar y mapiau.
 
 
 
::a) Gwenynen (ll. gwenyn)
::Mae'n amlwg mai dyma'r enw a ddefnyddir drwy Gymru gyfan. Defnyddir hefyd 'Gwenynen Fêl', 'Gwenynen ddu Gymreig' a 'Gwenynen Ddof gan wenynwyr
 
 
::(b) Cacynen (ll. cacwn)
::Drwy’r gogledd yn gyffredinol, y gair a ddefnyddir yw 'cacwn' ac fe'i ceir rnewn rhannau o'r de hefyd, sef gogledd [[Penfro ]] a [[dyffryn Teifi]]. Ond fe geir amrywiaethau diddorol yma yn ogystal, sef 'cachgi bwm' neu ‘caci bwm' yn [[Dyffryn Tywi|nyffryn Tywi]] ac yng [[Ceredigion|Ngheredigion]], tra bod 'picynen fawr' a 'bili bomen' i'w cael yn amlach yng Nghwm Tawe, Cawsom hefyd yr amrywiaethau canlynol ond yn aml heb enghraifft o'r fath gan berson arall 'cacynen fawr' ([[Dinas Mawddwy]]: 'cacwn mwnci, ([[Sir Fôn]]), ‘cacwn meirch' ([[Bethesda]]), 'bwmsen' ([[Llanddarog]]), 'bombi' ([[Pontiets]]) a ‘bombili' ([[Brynaman).
 
 
 
::c) Gwenynen Feirch (ll. Gwenyn Meirch) Fel y gwelir oddiwrth y mapiau, ceir dosbarthiad diddorol lawn i'r enw yma o ogledd-orllewin Cymru (Môn, Arfon a rhan o Feirion) ar hyd yr arfordir i lawr i ddyffryn Teifi a gogledd Sir Benfro. 'cacwn' a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o [[Clwyd|Glwyd]] ac hefyd i lawr i [[Dyffryn Dyfi|Ddyfi]] hyd at y môr. Yng nghanolbarth Ceredigion ceir yr enw 'piffci' (ll. piffcwn) ac yno'n unig hyd y gwelwn ni y gair mwyaf cyffredin am y trychfilyn yma yn [[Sir Gaerfyrddin]] a dwyrain [[Morgannwg]] yw 'picwnen' (ll. picwn). Ceir hefyd ‘picacwnen' yn [[Llanelli]] a [[Burry Port]] a ‘picagwnen’ yn Ystalyfera a Llangyfelach. Yn y gogledd fe gawsom hefyd amrywiaethau ar y gair 'cacwn' - 'cacwn brith ( rhwng dyffrynnoedd Clwyd a [[Dyffryn Conwy|Chonwy]]), 'cacwn meirch, ([[Tremadog]] a [[Penygroes|Phenygroes]]), 'cacwn geifr' (neu ar lafar 'Cacwn Gifir') ([[Dolgellau]], [[Ganllwyd]], [[Brithdir]], [[Rhydymain]], [[Y Bala]] ac [[Aberhosan]].ym [[Maldwyn]]), 'cacwn bach' ([[Llanfyllin]] a [[Dyffryn Tanat]]) a ‘Cacwn y Cythraul' ([[Penuwch]] yng [[Ngheredigion]]).<br>
 
 
::(ch) Robin y Gyrrwr
::Mae amryw o rywogaethau a elwlr yn 'Robin y Gyrrwr' neu ei amrywiaethau. Eu nodwedd bwysicaf yw eu bod oll yn gwneud swn uchel tra’n hedfan ac yn achosi i wartheg a cheffylau i ddychryn a rhedeg - 'ystodi' yw'r enw a roddir ar yr ymateb hwn yn Sir Fôn. Trwy ogledd Cymru ac ar arfordir gogledd Penfro y gair a ddefnyddir yw 'Robin y Gyrrwr'. Ym Mhont Senni a Threcastell yn [[Sir Frycheiniog]] ceir yr enw 'Robin Dreifar’. Yn Sir Gaerfyrddin y gair 'Robin' yn unig a ddefnyddir tra yng [[Cwm Tawe|Nghwm Tawe]] fe galedir y ‘b' yn y gair i 'ropin’. Y gair traddodiadol am gynrhon 'robin y gyrrwr' a geir yn magu o dan groen cefn gwartheg yw 'gweryd’, ac fe geisiwyd yn y blynyddoedd diwethaf gan y Weinyddiaeth Amaeth ac eraill, i gael pobol i ddefnyddio ‘pryfed gweryd’ am y pryfed aeddfed a ddatblyga o'r cynrhon sy'n magu mewn gwartheg. Fel y gwelir oddiwrth y mapiau, mae'r enw yma yn cael ei ddefnyddio mewn rhannau o'r gogledd.</br>
 
 
::Mewn hen lyfrau o'r ganrif ddiwethaf ceir enwau fel 'cacwn y cwn’ neu ‘cacwn y meirch’, a 'chacwn yr ych' am robin y gyrrwr ond ni chafwyd ond un neu ddau o enghreifftiau o'r gair 'cacwn' yn y cyd-destun yma. Fe allem ddamcaniaethu mai yn y gorffennol 'cacwn yr ych’, 'cacwn geifr’ a 'chacwn y meirch' a ddefnyddid am y rhywogaethau hynny a ymosodai ar wartheg, geifr a cheffylau ond bod 'robin y gyrrwr' yn cael el arfer yn ddiweddarach am yr holl rywogaethau. Efallai fod cysylltiad hefyd rhwng yr enwau hyn a'r defnydd o 'wenyn meirch' yng Ngwynedd, yr enw hwn wedi ei drosglwyddo bellach, fodd bynnag, i gyfateb a'r Saesneg ‘’wasp'’.
 
 
{{Wiciadur|{{lc:{{PAGENAME}}}}}}