Pryf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 102:
::Ym mhabell Gwasg Dwyfor y cynhaliwyd yr arbrawf. Yno gosodwyd lluniau ardderchog Ann Garrod o'r bedair rhywogaeth gydag enghreifftiau o bob un wedi ei binio allan; hefyd map o Gymru ar gyfer bob un. Gwahoddwyd ymwelwyr i'r babell i roddi eu henwau arbennig hwy ar y pedair rhywogaeth ac i leoli symbol a gyfatebai i'r enwau hynny ar eu broydd genedigol ar y mapiau. Fe welir y canlyniadau a gafwyd ar y mapiau.
 
[[Delwedd:Enwau gwenyn.jpg|250px|bawd|Dosbarthiad enwau llafar gwenyn a;'u tebyg]]
 
::a) Gwenynen (ll. gwenyn)
Llinell 117:
 
::(ch) Robin y Gyrrwr
::Mae amryw o rywogaethau a elwlr yn '[[pryfyn y gweryd:'Robin y Gyrrwr']]' neu ei amrywiaethau. Eu nodwedd bwysicaf yw eu bod oll yn gwneud swn uchel tra’n hedfan ac yn achosi i wartheg a cheffylau i ddychryn a rhedeg - 'ystodi' yw'r enw a roddir ar yr ymateb hwn yn Sir Fôn. Trwy ogledd Cymru ac ar arfordir gogledd Penfro y gair a ddefnyddir yw 'Robin y Gyrrwr'. Ym Mhont Senni a Threcastell yn [[Sir Frycheiniog]] ceir yr enw 'Robin Dreifar’. Yn Sir Gaerfyrddin y gair 'Robin' yn unig a ddefnyddir tra yng [[Cwm Tawe|Nghwm Tawe]] fe galedir y ‘b' yn y gair i 'ropin’. Y gair traddodiadol am gynrhon 'robin y gyrrwr' a geir yn magu o dan groen cefn gwartheg yw 'gweryd’, ac fe geisiwyd yn y blynyddoedd diwethaf gan y Weinyddiaeth Amaeth ac eraill, i gael pobol i ddefnyddio ‘pryfed gweryd’ am y pryfed aeddfed a ddatblyga o'r cynrhon sy'n magu mewn gwartheg. Fel y gwelir oddiwrth y mapiau, mae'r enw yma yn cael ei ddefnyddio mewn rhannau o'r gogledd.</br>