Caeredin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
OwenBlacker (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 23:
Roedd safle'r castell yn gaer naturiol, ac mae'r lle wedi cael ei ddefnyddio ers diwedd [[Oes yr Efydd]] (tua [[850 CC]]).
 
Yn ôl adroddiadau [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeinig]] o'r [[ganrif 1af]], roedd gan llwyth y ''Votadini'' ([[Gododdin (teyrnas)|Gododdin]] yr [[Hen Ogledd]]) eu canolfan yno ac mae cerdd arwrol o'r enw '[[Y Gododdin]]' (tua [[600]]), a briodolir o'r bardd [[Aneirin]], yn sôn am ryfelwyr yn gwledda yn Neuadd Fawr '''''Din Eidin''''' (Caeredin), wedi cael eu gwahodd yno gan y brenin [[Mynyddog Mwynfawr]].
 
Hyd heddiw, mae llawer o strydoedd canoloesol a hen adeiladau yn yr Hen Dref. Mae yna lu o strydoedd cul o'r enw ''close'' neu ''wynd'' a sgwarau i gynnal marchnadoedd. Yn ystod y [[1700au]] roedd tua 80,000 o bobl yn byw yn yr Hen Dref gyda wal cryf o'i chwmpas, ond does dim ond 4,000 yn byw yno heddiw. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'r Hen Dref a'i hadeiladau uchel gan dân ym [[1824]]. Bu tân mawr arall ar [[7 Rhagfyr]], [[2002]], a ddinistriodd ardal ''Cowgate'' o'r Hen Dref, gan gynnwys Llyfrgell AI a rhai o adeiladau eraill [[Prifysgol Caeredin]].