Y Graig Arw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd; rhan o ddatblygiad ar ardal Godre'r-graig, Cwm Tawe |
Dechrau cyfraniad Y Graig Arw |
||
Llinell 1:
Hen enw ar ardal Pantteg rhwng [[Godre'r-graig]] ac [[Ystalyfera]] yng [[Cwm Tawe|Nghwm Tawe]] yw'r [[Y Graig Arw|Graig Arw]],
Saif y Graig Arw ar lethrau Mynydd Alltygrug (1113 troedfedd), ar ochr orllewinol y cwm, cyferbyn â Mynydd Y Darren Wyddon (1156 troedfedd) ar yr ochr ddwyreiniol. Dywedir fod [[Cwm Tawe]] yn gul iawn (tua 400 llath yn unig o led) yn ardal [[Y Graig Arw]] gan fod tywodfaen y mynyddoedd yn anodd i'w erydu.
Ychydig oedd y boblogaeth cyn y Chwildro Diwydiannol. Mae cofnodion am ffermydd ar lethrau Mynydd Alltygrug ers yr unfed ganrif ar bymtheg; ffermydd megis Clungwyn, Tirbach, Alltygrug, Tŷ Gwyn, Tŷ Gwyn Bach, Gilfach Goch, Gilfach yr Haidd, Pantygwynyd, Penlanfach, Tir Garw, Coedcaemawr a Charreg Pentwyn. Clungwyn yw'r hynaf a nodir yng nghofnodion Ystâd Gough, yn 1516.
==Llyfryddiaeth==
|