Ymyrraeth ddyngarol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B gw
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
teipio
Llinell 2:
Ymyrraeth [[lluoedd arfog|arfog]] gan un [[gwladwriaeth|wladwriaeth]] mewn i faterion gwladwriaeth arall gyda'r nod o atal neu liniaru dioddefaint yw '''ymyrraeth ddyngarol'''.
 
Mae egwyddorion [[dyngarwch]] yn aml yn gwrthdaro â normau sylfaenol mewn [[cysylltiadau rhyngwladol]], yn bennaf normau fel [[sofraniaeth]], [[anymyrraeth]], a diffyg defnydd aro grymrym.<ref name="BW524">Bellamy a Wheeler, t. 524.</ref>
 
==Hanes==
Ni welwyd fawr o lwyddiant i sefydlu gyfraithcyfraith ar gyfer [[hawliau dynol]] sylfaenol tan ar ôl [[yr Holocost]]. Yn ystod [[y Rhyfel Oer]] (1945&ndash;1991) gwelwyd sofraniaeth a threfn yn bwysicach na orfodigorfodi hawliau dynol, ac ni welwyd ymyrraeth ddyngarol arfog fel arfer [[cyfreithlondeb (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)|gyfreithlon]]. Yn y 1990au bu newid mewn agweddau a datblygodd norm rhyngwladol i ddefnyddio grym i atal [[hil-laddiad]] a [[llofruddiaeth dorfol]].<ref name="BW524"/>
 
==Moeseg==
Mae rhai yn gweld ymyrraeth ddyngarol fel [[dyletswydd]] [[moeseg|moesol]] sydd y tu allan i awdurdod cyfraith ryngwladol. Dadleir bod sofraniaeth wladwriaethol yn deillio o gyfrifoldeb y wladwriaeth i ddioleguddiogelu ei [[dinesydd|dinasyddion]], a chollir y sofraniaeth hon mewn achosion o hil-laddiad neu lofruddiaeth dorfol.<ref name="BW526">Bellamy a Wheeler, t. 526.</ref>
 
Gall safbwyntiau moesol o blaid ymyrraeth ddyngarol bod yn gysylltiedig â damcaniaeth y [[rhyfel cyfiawn]].<ref name="BW526"/>