Griffith Edwards (Gutyn Padarn): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 11:
 
== Gyrfa lenyddol ==
Roedd Gutyn yn un o'r beirdd o ardal [[Caernarfon]] oedd yn cael eu hadnabod fel ''Cywion Dafydd Ddu'' sef beirdd a ddysgodd y grefft o farddoni gan [[Dafydd Ddu Eryri]] ac ef yw awdur un o englynion bedd Dafydd Du:
{{Dyfyniad|
 
:Wele, — Dyma gell dywell Dewi, — fardd clodfawr
::O orawr Eryri
:Tristwch mawr sy'n awr i ni
:O'i ddwyn, ddyn addwyn, iddi. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1356250/1361166/175#?xywh=71%2C1052%2C2327%2C1512 Cymru; Cyf. 33, 1907 - Beirdd Llanberis]</ref>}}
 
Ym 1831, cyhoeddodd Gutyn Padarn cyfres o erthyglau hynafiaethol yn [[y Gwyliedydd]]. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2157185/2163305/19#?xywh=-490%2C993%2C2938%2C1910 ''Achau Teulu Cefn Llanfair gan Gutyn - Y Gwyliedydd Chwefror 1831'']</ref> Ym 1832 dyfarnwyd y wobr iddo yn Eisteddfod [[Biwmares]] am y Farwnad orau er Cof am y Parch. John Jenkins o Geri, a derbyniodd y wobr o fedal arian gan y Dywysoges Fictoria, ([[Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig|y Frenhines Fictoria]] yn ddiweddarach). Yna enillodd wobr mewn Eisteddfod yng Nghaerdydd am ysgrifennu cerdd o glod i'r dywysoges Fictoria ym 1840. Roedd yn fuddugol yn Eisteddfod Lerpwl am Farwnad i [[Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig|Syr Watkin Williams-Wynn]] ac yn y Bala am Farwnad i wraig Syr Watkin y Ledi Henrietta Wynn.