Ym 1831, cyhoeddodd Gutyn Padarn cyfres o erthyglau hynafiaethol yn [[y Gwyliedydd]]. <ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2157185/2163305/19#?xywh=-490%2C993%2C2938%2C1910 ''Achau Teulu Cefn Llanfair gan Gutyn - Y Gwyliedydd Chwefror 1831'']</ref> Ym 1832 dyfarnwyd y wobr iddo yn Eisteddfod [[Biwmares]] am y Farwnad orau er Cof am y Parch. John Jenkins (Ifor Ceri), a derbyniodd y wobr o fedal arian gan y Dywysoges Fictoria, ([[Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig|y Frenhines Fictoria]] yn ddiweddarach). Yna enillodd wobr mewn Eisteddfod yng Nghaerdydd am ysgrifennu cerdd o glod i'r dywysoges Fictoria ym 1840. Roedd yn fuddugol yn Eisteddfod Lerpwl am Farwnad i [[Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig|Syr Watkin Williams-Wynn]] ac yn y Bala am Farwnad i wraig Syr Watkin y Ledi Henrietta Wynn.
Wedi hynny mae'n ymddangos ei fod wedi rhoi'r gorau i gystadlu ar farddoni mewn eisteddfodau gan droi fwy at feirniadu.