Afon Clwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 4:
Gorwedd tarddle Afon Clwyd ar ucheldiroedd llym rhan ddwyreiniol [[Mynydd Hiraethog]], yn ne [[Sir Ddinbych]]. Yno, tua 1650 troedfedd i fyny yng nghoedwig [[Coniffer|gonifferaidd]] [[Fforest Clocaenog]], mae'r afon yn tarddu i'r gogledd o bentref bach [[Bod Petrual]] ac yn llifo ar gwrs i'r de. Ym Melin y Wig mae'n gwneud tro pedol i'r gogledd-ddwyrain a heibio i gymunedau [[Derwen (Dinbych)|Derwen]] a [[Llanelidan]] gan droi ar gwrs gogleddol. Rhwng y pentrefi hynny mae lôn yr [[A494]] yn ei chroesi am y tro cyntaf.
 
Wrth i Afon Clwyd lifo i mewn i ran uchaf Dyffryn Clwyd a'r tir ddechrau mynd yn fwy gwastad ar ei glannau, mae [[Afon Alyn]] yn ymuno â hi o'r de-ddwyrain. Saif pentref hanesyddol [[Llanfair Dyffryn Clwyd]] ar aber Alyn a Chlwyd. Erbyn iddi gyrraedd tref [[Rhuthun]] a'i [[Castell Rhuthun|gastell]] canoloesol mae'r afon wedi chwyddo'n sylweddol ac yn cymryd cwrs mwy hamddenol bron yn syth i gyfeiriad y gogledd a'r môr. Mae hi'n gadael Rhuthun ar ei glan ddwyreiniol ac mae'r A494 yn ei chroesi am yr ail dro ar ymyl y dref. Mae nifer o ffrydiau llai yn ymuno â hi wrth iddi fynd yn ei blaen, gan gynnwys [[Afon Ystrad]] o gyfeiriad [[Nantglyn]] i'r gorllewin. Rhed yr afon heibio i [[Llangynhafal|Langynhafal]] a [[Llandyrnog]], i'r dwyrain, a thref [[Dinbych]] i'r gorllewin. Hanner milltir cyn y dref olaf honno mae [[Afon Clywedog (Clwyd)|Afon Clywedog]], hithau'n codi yn Fforest Clocaenog hefyd, yn ymuno â hi.
 
Am draean olaf ei siwrnai mae'r afon yn llifo'n urddasol trwy ffermdir cyfoethog a dolydd braf Dyffryn Clwyd, heibio i [[Bodfari|Fodfari]], gyda [[Bryniau Clwyd]] i'r dwyrain. Ar gyrrion dwyreiniol dinas eglwysig [[Llanelwy]] mae'r [[A55]] yn croesi'r afon ar bont newydd. Mae'r tir ar ei glannau'n wastad iawn erbyn i [[Afon Elwy]] lifo i mewn iddi ychydig i'r gogledd o Lanelwy. Mae hi'n llifo trwy ganol [[Rhuddlan]] ac yn fuan wedyn yn ymagor i'r [[Y Foryd|Foryd]], ei haber cysgodlyd ger [[Y Rhyl]], ac yn cyrraedd y môr.