Y Graig Arw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
YGraigArw (sgwrs | cyfraniadau)
B wedi symud Y Graig Arw i Y Graig Arw (Cwm Tawe): Rhag ofn y daw Craig Arw arall i'r golwg yn y dyfodol
YGraigArw (sgwrs | cyfraniadau)
B Ychwanegu dolen "Llysenwau Ystalyfera"
Llinell 1:
Hen enw ar ardal Pant-teg rhwng [[Godre'r-graig]] ac [[Ystalyfera]] yng [[Cwm Tawe|Nghwm Tawe]] yw'r '''Graig Arw''', rhyw 12 milltir i'r gogledd-ddwyrain o [[Abertawe]]. Mae'n un o lecynnau hynaf y cylch. Cynhaliwyd Ysgolion Gruffudd Jones, Llanddowror yma rhwng 1739 a 1759, ac yma y codwyd adeilad cyhoeddus cyntaf y cyffiniau, a'r capel cyntaf, Capel Pant-teg, yn 1821. Nododd William Hopkin yn ei Feibl, ''May the 14th, 1821, opened the New Meeting House in Craigarw, named Pantteg. William Hopkin, Pantteg, his hand''.
 
Saif y Graig Arw ar lethrau Mynydd Allt-y-grug (1113 troedfedd), ar ochr orllewinol y cwm, cyferbyn â Mynydd Y Darren Wyddon (1156 troedfedd) ar yr ochr ddwyreiniol. Dywedir fod [[Cwm Tawe]] yn gul iawn (tua 400 llath yn unig o led) yn ardal [[Y Graig Arw]] gan fod tywodfaen y mynyddoedd yn anodd ei erydu. Ceir cofnodion am ffermydd ar lethrau Mynydd Allt-y-grug ers y 15fed ganrif; ffermydd megis Clun-gwyn, Tir-bach, Allt-y-grug, Tŷ Gwyn, Tŷ Gwyn Bach, Gilfach Goch, Gilfach yr Haidd, Pant-y-gwynyd, Penlan-fach, Tir Garw, Coed-cae-mawr a Charreg Pentwyn. Clun-gwyn yw'r hynaf a nodir yng nghofnodion Ystâd Gough, yn 1516. Yn y gorffennol, roedd y cylch yn enwog am [[Llysenwau Ystalyfera|lysenwau]] lliwgar y trigolion.
 
Yn ystod yr ugeinfed ganrif dioddefodd yr ardal nifer o dirlithriadau.