Emyr Huws Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cyfansoddwr a aned yn Llangefni yn 1950
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen person/Wicidata | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl | dateformat = dmy | nationality = {{banergwlad|Cymru}} }} Cyfa...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:02, 15 Chwefror 2020

Cyfansoddwr a cherddor o Gymro yw Emyr Huws Jones (ganwyd Chwefror 1950). Mae'n gyn-aelod o fandiau Y Tebot Piws a Mynediad am Ddim ac yn gyfansoddwr caneuon adnabyddus fel "Cofio Dy Wyneb", "Ceidwad y Goleudy" a "Rebal Wicend".[1]

Emyr Huws Jones
GanwydChwefror 1950 Edit this on Wikidata
Llangefni Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr, cerddor, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata

Fe'i magwyd yn Llangefni. Roedd tua 12 pan gafodd gitâr a cafodd ei ddylanwadu gan gerddoriaeth Bob Dylan.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Llangefni a Choleg y Brifysgol, Bangor. Daeth yn ffrindiau gyda Alun 'Sbardun' Huws a ffurfiodd y band Y Tebot Piws gyda Stan Morgan-Jones a Dewi 'Pws' Morris.

Ar ôl gadael y coleg, cafodd swydd yn llyfrgell y dre' yn Aberystwyth, lle roedd yn cymysgu efo'r myfyrwyr oedd yn yfed yn y Blingwyr. Daeth yn ffrindiau gyda Emyr Wyn a chafodd wahoddiad i ymuno gyda Mynediad am Ddim.

Cyfeiriadau

  1. Cofio Dy Wyneb: Hel atgofion gydag Emyr Huws Jones yn 70 oed , BBC Cymru Fyw, 14 Chwefror 2020. Cyrchwyd ar 15 Chwefror 2020.