Hil: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad cod 2017
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 4:
 
== Syniadau hanesyddol ==
Yng nghelf [[yr Hen Aifft]], dangosir yr Eifftiaid hynafol yn groengoch, y gelynion i'r dwyrain yn groenfelyn, y goresgynwyr o'r gogledd yn groenwyn, a'r bobloedd i'r de yn groenddu. Dyma felly dystiolaeth yr oeddynt yn cydnabod categorïau cyffredinol o'r ddynolryw ar sail lliw, ond nid o reidrwydd unrhyw ystyr fanylach o ddosbarthiad hiliol. Ymddengys amrywiaeth o gysyniadaeth hil am wahanol bobloedd [[yr Henfyd]] yng ngwaith awduron [[Hen Roeg]]. Defnyddiodd [[Herodotus]] y gair ''ethnos'' (lluosog: ''ethnea'') i ddisgrifio pob math o grwpiau dynol, boed yn grŵpiau ethnig, cymdeithasau gwleidyddol, [[llwyth]]au, neu ffurfiau cynnar ar genhedloedd, hynny yw cymunedau eang sydd yn rhannu [[carennydd]], iaith, crefydd, a diwylliant cyffredin. Tybiodd [[Polybius]] bod amodau hinsawdd a daearyddiaeth wedi yn esbonio'r gwahaniaethau corfforol rhwng gwahanol grwpiau o fodau dynol.
 
Yn ôl ''Y Dangosai Daearyddawl'' (1823) gan Robert Roberts, gellir dosbarthu lliwiau croen y ddynolryw fel y ganlyn: "''Du''. Trigolion [[Canolbarth Affrica|canol-barthau Affrica]], [[Gini Newydd|Guni newydd]] ac [[Awstralia|Holland Newydd]]. ''Gwineuddu''. Y [[Mwriaid|Mooriaid]] yn [[Gogledd Affrica|ngogledd-barth Affrica]], ac yr [[Hotentot|Hottentottiaid]] yn ei [[De Affrica (rhanbarth)|rhànau deheuol]]. ''Gwineu''. Trigolion yr [[De Asia|India ddwyreiniol]]. ''Coch''. Trigolion [[Yr Amerig|America]], ''Coch-ddu''. Trigolion parthau [[De Ewrop|deheuol Ewrop]], megys y [[Sisili|Siciliaid]], [[Sbaenwyr|Yspaeniaid]], [[Tyrciaid|Twrciaid]] a [[Groegiaid]] ; hefyd y [[Sami|Laplandiaid]] yn y gogledd, a ''Gwyn'', holl ganol-barthau Ewrop, sef [[Prydain Fawr|Prydain]], [[Almaen]], &c. ac y [[Georgiaid]] yn Asia, a thrigolion [[Ynysoedd y Cefnfor Tawel|ynysoedd Mor mawr y De]]."<ref>Robert Roberts, ''Y Dangosai Daearyddawl'' (Llundain: Apollo Press, 1823), t. 10.</ref>