Cwmni Recordiau Sain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Sefydlwyd yn 1969 gan DAFYDD IWAN, HUW JONES, a BRIAN MORGAN EDWARDS yng Nghaerdydd. Symudwyd swyddfa'r cwmni o Gaerdydd i Landwrog, ger Caernarfon, yn 1970 er mwyn i'r cwmni fod yn...
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Yn 1975 agorwyd Stiwdio gyntaf SAIN ar fferm GWERNAFALAU ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â'r staff fel cynhyrchydd.
 
1975 - 1979 oedd "cyfnod aur" Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o'r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, yr oedd nifer o grwpiau roc a gwerin wedi dechrau yng Nghymru, a bandiau fel EDWARD H. DAFIS wedi rhoi i ieuenctid Cymru eu "diwylliant roc" eu hunain. Artistiaid amlwg y cyfnod hwn ar label SAIN oedd HERGEST a DELWYN SIÔN, GERAINT JARMAN, HEATHER JONES, MEIC STEVENS, TECWYN IFAN, MYNEDIAD AM DDIM ac EMYR HUWS JONES, ENDAF EMLYN, BRÂN, SHWN, ELIFFANT, AC ERAILL a SIDAN.
 
Roedd DAFYDD IWAN yn parhau i ddenu tyrfaoedd gyda'i ganeuon personol gwleidyddol, a SAIN yn parhau i fod â chysylltiad amlwg â'r deffroad cenedlaethol a diwylliannol-ieithyddol a ddechreuodd yng Nghymru yn y 60au. Roedd nifer o artistiaid SAIN yn canu am bynciau gwleidyddol a chenedlaethol Gymreig, ac hefyd yn flaenllaw yn y mudiad cenedlaethol gwleidyddol. Enillodd Plaid Cymru ei seddau cyntaf yn San Steffan yn 1966 ac 1974.