Cwmni Recordiau Sain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B dolennau
Llinell 1:
Sefydlwyd yn 1969 yw '''Cwmni Recordio Sain''' gan DAFYDD[[Dafydd IWANIwan]], HUW[[Huw JONESJones]], a BRIAN[[Brian MORGANMorgan EDWARDSEdwards]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]].
 
Symudwyd swyddfa'r cwmni o Gaerdydd i Landwrog, ger [[Caernarfon]], yn [[1970]] er mwyn i'r cwmni fod yn nes i'r gynulleidfa Gymraeg ac fel rhan o'r mudiad i ddechrau busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig. Roedd y ddau Gyfarwyddwr gweithredol, Huw Jones a Dafydd Iwan, hefyd yn awyddus i godi eu plant mewn ardal Gymraeg, a sefydlodd y naill yn Llandwrog a'r llall yn y Waunfawr.
 
Yn 1973 symudodd y cwmni i Stad Ddiwydiannol Pen-y-groes, a dechrau cyflogi staff ychwanegol. Recordiau sengl ac EP oedd yr unig gynnyrch hyd yn hyn, ond yn awr dechreuwyd cynhyrchu recordiau hir. O ran y deunydd, roedd y pwyslais o hyd ar ganu'r ifanc, canu pop/gwerin/protest.
Llinell 7:
Yn 1975 agorwyd Stiwdio gyntaf SAIN ar fferm GWERNAFALAU ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â'r staff fel cynhyrchydd.
 
1975 - 1979 oedd "cyfnod aur" Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o'r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, yr oedd nifer o grwpiau roc a gwerin wedi dechrau yng Nghymru, a bandiau fel EDWARD H. DAFIS wedi rhoi i ieuenctid Cymru eu "diwylliant roc" eu hunain. Artistiaid amlwg y cyfnod hwn ar label SAIN oedd HERGEST[[Hergest]] a DELWYN SIÔN, GERAINT[[Geraint JARMANJarman]], HEATHER JONES, MEIC[[Meic STEVENSStevens]], TECWYN IFAN, MYNEDIAD AM DDIM ac EMYR HUWS JONES, ENDAF[[Endaf EMLYNEmlyn]], INJAROC, BRÂN, SHWN, ELIFFANT, AC ERAILL a SIDAN.
 
Roedd DAFYDD IWAN yn parhau i ddenu tyrfaoedd gyda'i ganeuon personol gwleidyddol, a SAIN yn parhau i fod â chysylltiad amlwg â'r deffroad cenedlaethol a diwylliannol-ieithyddol a ddechreuodd yng Nghymru yn y 60au. Roedd nifer o artistiaid SAIN yn canu am bynciau gwleidyddol a chenedlaethol Gymreig, ac hefyd yn flaenllaw yn y mudiad cenedlaethol gwleidyddol. Enillodd Plaid Cymru ei seddau cyntaf yn San Steffan yn 1966 ac 1974.
 
TREBOR[[Trebor EDWARDSEdwards]] a HOGIA'R WYDDFA oedd y ddau enw mwyaf poblogaidd yn y canu "canol-y-ffordd", yn ogystal â grwpiau eraill fel HOGIA LLANDEGAI a TONY[[Tony ACac ALOMAAloma]]. Gwerthiant recordiau'r artistiaid hyn, a recordiau CORAU MEIBION, oedd asgwrn cefn y cwmni.
 
Agorwyd Stiwdio SAIN, gydag offer 24-trac ar ei safle bresennol yn [[1980]]. Ar y pryd, yr oedd hi gyda'r mwyaf modern o'i bath yn Ewrop, ac yr oedd gan y cwmni hefyd Stiwdio Deithiol 8-trac. Symudwyd y swyddfeydd o Ben-y-groes i'r un safle â'r Stiwdio yn [[1982]]. Erbyn hyn yr oedd 15 o bobl yn gweithio'n amser-llawn i'r cwmni.
 
Aeth Huw Jones i fyd y teledu yn fuan ar ôl sefydlu'r stiwdio newydd, a bu'n gyfrifol am sefydlu cwmni adnoddau Barcud a chwmni cynhyrchu Tir Glas ar gyfer sianel deledu newydd S4C. Yn fuan wedyn, wedi 10 mlynedd gynhyrchiol, aeth Hefin Elis yntau i fyd y teledu , er iddo barhau i gynhyrchu recordiau i SAIN.
Llinell 19:
Cymerwyd lle HEFIN ELIS fel cynhyrchydd staff gan GARETH HUGHES JONES, ac yna gan EMYR REES. Cynhyrchwyr eraill a fu'n gyfrifol am rai o recordiau SAIN yw TUDUR MORGAN, LES MORRISON, SIMON TASSANO, DONAL LUNNY, EUROS RHYS, STEFFAN REES, GARETH GLYN, GERAINT CYNAN, MYFYR ISAAC, ANNETTE BRYN PARRI, a'r diweddar GARETH MITFORD WILLIAMS.
 
Yn [[1987]], agorwyd Stiwdio 2 yng Nghanolfan SAIN, sydd bellach â'r gallu i olygu'n ddigidol, a chynhyrchu Cryno-Ddisgiau. Mae llawer o waith aml-gyfryngol yn digwydd yno bellach, wrth i SAIN ddatblygu cysylltiadau â'r byd teledu, ffilm a fideo.